Erthyglau Cymraeg - Liverpool

30th April
 
Mae o bob tro'n achlysur emosiynol i Joe Allen pan mae o'n dychwelyd i Stadiwm Liberty. A dwi'n siwr y bydd o'n cael croeso cynnes gan y cefnogwyr unwaith eto heddiw.
 
Mae hi'n amhosibl beio Joe am adael Abertawe i ymuno â Lerpwl nol yn 2012. Mi oedd o'n gynnig rhy dda iddo ei wrthod yn enwedig gan gofio mai Brendan Rodgers oedd rheolwr newydd y cochion. A mi oedd gan Rodgers feddwl mawr iawn ohono.
 
Fe ddoth Lerpwl yn hynod o agos at ennill Uwch Gynghrair Lloegr yn nhymor 2013-14. Doedd y tymor canlynol ddim cystal ar ol i Luis Suarrez hel ei bac am Barcelona. A wedyn llynedd fe gafodd Rodgers ei ddi-swyddo ar ol dechrau siomedig i'r tymor presennol.
 
Mi oedd sawl un yn meddwl mai dyma fysa tymor olaf Joe yn Anfield ar ol i Jurgen Klopp gael ei benodi. Doedd o ddim yn cael ei ddewis i ddechrau gemau a mi oedd Klopp yn dewis chwaraewyr fel Jordan Henderson, Emre Can a James Milner o'i flaen.
 
Ond dros yr wythnosau diwethaf mae'r Cymro wedi profi ei werth efo cyfres o berfformiadau gwych. Mae o bellach yn un o ffefrynnau cefnogwyr y Kop, a mi gafodd o groeso hynod o wresog pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Everton yn y gêm dderbi wythnos a hanner yn ôl.
 
Mae ei gytundeb yn dod i ben ddiwedd tymor nesaf a mae'n edrych yn debyg y bydd yn rhaid i'r clwb benderfynu haf yma os ydyn nhw am unai roi cytundeb newydd iddo neu ei werthu.
 
Mae o wedi cael ei gysylltu efo trosglwyddiad posibl nôl i Abertawe. Ond yn bersonol dwi'n meddwl y bydd o'n aros yn Anfield. Mae Klopp wedi bod yn ei ganmol yn aml yn ddiweddar, a mae o'n un o'r chwaraewyr gorau'n y gynghrair am reoli tempo gêm.
 
Gyda blwyddyn yn unig yn weddill ar ei gytundeb presennol mi fydd o ar dân i brofi ei werth i Lerpwl a gweddill Ewrop yn  Ffrainc yn Ewro 2016 yr haf yma.