Erthyglau Cymraeg - Norwich

5th March
 
Mae hi mor dynn tuag at waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar y funud. Os anghofiwn ni am Aston Villa sydd ar y gwaelod un dim ond 13 pwynt sydd rhwng Sunderland sy'n 19eg a Watford sy'n 10fed. Mae yna gymaint yn y fantol yn y 13 gêm nesaf.
 
Mi fydd Francesco Guidolin yn eithaf hapus efo'r dechrau mae o wedi ei gael fel rheolwr Abertawe. Tair gêm. Un fuddugoliaeth. A dwy gêm gyfartal.
 
Ond mae'r Elyrch wedi ildio o giciau cornel ymhob un o'r tair gêm. Dwi'n siwr bod hynny yn rhywbeth mae Guidolin wedi bod yn gweithio arno yn y sesiynau ymarfer dros y dyddiau diwethaf. Fel rheolwr does yna ddim byd gwaeth na gweld eich tîm yn ildio o giciau gosod.
 
Dim ond pedwar pwynt bellach sy'n gwahanu Abertawe a Norwich sy'n 18fed (ac o fewn y 3 safle isaf). Os am osgoi'r gwymp yna mae'n rhaid i'r Elyrch ddechrau ennill mwy o gemau cartref. Ers diwedd mis Awst dim ond 2 gêm maen nhw wedi eu hennill ar Y Liberty, a hynny'n erbyn West Brom a Watford.
 
Mae yna bwysau ar Abertawe i gael canlyniad heddiw achos mae eu dwy gêm nesaf nhw oddi cartref, y gyntaf yn erbyn Tottenham sy'n ail ac yna'n erbyn Arsenal sy'n drydydd. Mae'r ddau glwb o Ogledd Llundain yn chwarae'n wych ar y funud ac fe allwn ragweld gemau anodd i Abertawe.
 
Tri phwynt heddiw ac fe allen ni weld tîm Guidolin yn ymestyn ei fantais dros Norwich i 7 pwynt. Ond os na fyddan nhw'n llwyddo i ennill yna fe allen ni eu gweld nhw yn y 3 safle isaf wedi'r gemau'n erbyn Spurs ac Arsenal.
 
Mae hi wedi bod yn dymor o ganlyniadau annisgwyl hyd yn hyn. Pwy fysa wedi meddwl ym mis Chwefror y bysa Caerlyr ar y brig ac y bysa Chelsea yn hanner isaf y tabl? Gan gofio bod Southampton yn 7fed ac yn ddi-guro yn eu 5 gêm ddiwethaf mi fysa canlyniad da heddiw yn cael ei groesawu'n wresog gan ffyddloniaid Y Liberty.
 
**Mae yna sylwebaeth o bob gêm Abertawe ar BBC Radio Cymru