ERTHYGLAU CYMRAEG - BOURNEMOUTH

31st December

Sut mae rhywun yn mynd ati i grynhoi 2016? Mae hi wedi bod yn flwyddyn fythgofiadwy i bêl-droed yng Nghymru a hynny oherwydd yr hyn lwyddodd y tîm cenedlaethol i'w gyflawni yn Ewro 2016.

 

Oherwydd y bydd yr atgofion yn fyw yn y cof am flynyddoedd maith i ddod mae hi bron yn amhosib dewis un uchafbwynt i fod yn gwbl onest. Ond mae yna sawl eiliad i'w thrysori.

 

Yr anthem cyn y gêm agoriadol yn erbyn Slovakia yn Bordeaux. Cic rydd Gareth Bale. Y perfformiad yn erbyn Rwsia. Neil Taylor yn ei synnu ei hun trwy sgorio gôl. Ashley Williams yn gwrthod gadael y cae yn erbyn Gogledd Iwerddon er ei fod wedi brifo ei ysgwydd. Gôl Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg. Y cefnogwyr yn bloeddio canu ar ddiwedd y gêm yn erbyn Portiwgal er bod yr antur fawr ar ben.

 

Rhywbeth arall sy'n aros yn y cof hefyd ydi'r gwaith a gyflawnodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru oddi ar y cae yn ystod y twrnament yn enwedig felly o safbwynt hyrwyddo'r Gymraeg. Gwych iawn oedd clywed Osian Roberts yn siarad Cymraeg yn ystod cynadleddau swyddogol UEFA. Ac mae Ian Gwyn Hughes, sy'n gweithio i'r Gymdeithas, yn haeddu lot fawr o glod am ofalu am hynny.

 

Buasai'n wych gweld y tîm cenedlaethol yn adeiladu ar lwyddiant Ewro 2016. Ac er nad ydyn nhw wedi cael y dechrau delfrydol i'w hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan Y Byd 2018 mi fysa buddugoliaeth yn Nulyn yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fis Mawrth yn newid popeth.

 

Yn anffodus tydi 2016 ddim wedi bod yn flwyddyn wych i brif glybiau Cymru hyd yn hyn sef Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Dyma obeithio y bydd pob un ohonyn nhw yn gwneud digon i aros yn eu cynghreiriau yn ystod y misoedd nesaf.

 

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!