ERTHYGLAU CYMRAEG - CHELSEA

11th September

Ers i Abertawe golli’n erbyn Caerlyr bythefnos yn ôl mae yna nifer o gefnogwyr Yr Elyrch wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n poeni am eu tîm y tymor yma. Poeni nad ydyn nhw’n ddigon da i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr. Coeliwch fi – mae hi’n llawer rhy gynnar i ddechrau poeni am hynny.

Er mod i'n deall y siom o golli dwy gêm yn olynol yn yr Uwch Gynghrair does yna ddim cywilydd colli oddi cartref yn erbyn y pencampwyr presennol, Caerlyr. A dwi’n meddwl eu bod nhw wedi bod yn hynod anffodus yn erbyn Hull yn y gêm flaenorol. Abertawe oedd y tîm gorau tan i Hull sgorio o gic gornel. Roedd y clwb yn hynod o siomedig i beidio ag arwyddo Enner Valencia ar fenthyg o West Ham cyn i’r cyfnod trosglwyddo ddod i ben. Mi benderfynodd yr ymosodwr ymuno ag Everton yn hytrach na dod i’r Liberty. Rhwng popeth mi fuo hi’n gyfnod trosglwyddo cymysglyd i’r clwb – gwerthu’r capten Ashley Williams a’u prif sgoriwr y tymor diwethaf, Andre Ayew. Ond arwyddo Fernando Llorente sydd wedi ennill Cwpan Y Byd yn ogystal â Borja Baston am £15m, sy’n record i’r clwb.

Mae’n bwysig bod y cefnogwyr yn rhoi amser i’r chwaraewyr newydd setlo yn Ne Cymru ac i ddod i arfer efo Uwch Gynghrair Lloegr. Mae hi’n gynghrair fwy corfforol na La Liga yn Sbaen a thempo’r chwarae’n dipyn cynt.

Mae Llorente wedi sgorio lot o goliau i Athletic Bilbao ac i Juventus dros y blynyddoedd a hefyd wedi sgorio 7 gôl i Sbaen mewn 24 gêm. O ran Borja Baston – fe sgoriodd o 18 gôl tra ar fenthyg yn Eibar o Athletico Madrid yn La Liga y tymor diwethaf. Does yna ddim amheuaeth yn fy meddwl i na fydd y ddau’n sgorio lot o goliau rhyngddyn nhw y tymor yma.

Mae’n werth cofio hefyd nad ydi Gylfi Sigurdsson ddim ar ei orau ar y funud. Mi gafodd o orffwys ar ôl i Wlad Yr Iâ wneud cystal yn Ewro 2016 – felly tydi o ddim wedi bod 100% yn ffit yn ystod gemau agoriadol y tymor.

Dwi’n gwybod fod yna rediad anodd o gemau yn wynebu’r Elyrch dros yr wythnosau nesaf gan ddechrau efo’r gêm yma’n erbyn Chelsea. Ond pan fydd pawb ar eu gorau – dwi wir yn credu fod yna ddigon o dalent o fewn carfan Yr Elyrch i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall.