ERTHYGLAU CYMRAEG - CRYSTAL PALACE

26th November

Bechod na fysa’r Nadolig yn dod yng nghynt i Abertawe. Mae’r clwb mewn sefyllfa bryderus yn Uwch Gynghrair Lloegr ar y funud ac maen nhw angen anrheg neu ddau gan Siôn Corn.

Y peth cyntaf maen nhw ei angen ydi buddugoliaeth. Tydyn nhw heb ennill gêm gynghrair ers penwythnos agoriadol y tymor, oddi cartref yn Burnley. Yn ystod y cyfnod yna mae’r clwb wedi diswyddo Francesco Guidolin ac wedi penodi Bob Bradley yn ei le. Ond er bod Bradley wedi bod wrth y llyw am bum gêm bellach does ‘na dal ddim golwg o fuddugoliaeth. Mae’n rhaid dweud eu bod nhw’n anlwcus i beidio cael y tri phwynt yn erbyn Everton ddydd Sadwrn diwethaf. Mi fysa ennill un gêm yn gallu gwneud gymaint o wahaniaeth i’w tymor.

Yn ail maen nhw angen sgorio mwy o goliau. Dim ond tair gôl maen nhw wedi sgorio yn eu pedair gêm ddiwethaf. Yn anffodus mae’r ddau Sbaenwr Fernando Llorente a Borja Baston wedi cael dechrau siomedig i’r tymor ers iddyn nhw ymuno â’r clwb dros yr haf. Gan fod yr un ohonyn nhw wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr o’r blaen mae hi wedi cymryd amser iddyn nhw gynefino efo gofynion y gynghrair. Ac mae'r ddau hefyd wedi bod yn dioddef efo anafiadau. Mae angen iddyn nhw ddechrau sgorio’r rheolaidd mor fuan â phosibl.

Ac yn olaf, maen nhw angen ychydig o lwc. Tydi pethau ddim wedi mynd o’u plaid nhw mewn rhai gemau'r tymor yma – fel y gôl i’w rwyd ei hun gan Alfie Mawson yn erbyn Stoke pan oedd hi’n gyfartal 1-1 ar y pryd. Mae pob tîm angen ychydig o lwc bob hyn a hyn – a tydi’r Elyrch heb gael dim dros yr wythnosau diwethaf.

 

Mae’r gêm heddiw yn erbyn Crystal Palace yn un anferth. Anghofiwch am gemau cyfartal – dyma’r math o gêm mae’n rhaid iddyn nhw ei hennill os am unrhyw obaith o aros yn y gynghrair ar ddiwedd y tymor. Mae’n rhaid iddyn nhw fanteisio ar y ffaith fod Palace ar rediad gwael ac wedi colli eu pum gêm gynghrair ddiwethaf. Ac os llwyddan nhw i drechu Palace yna mae ganddyn nhw rediad o gemau yn erbyn timau y bydden nhw’n hyderus o ennill pwyntiau yn eu herbyn – timau fel Sunderland, Middlesbrough, Bournemouth a West Brom.

 

Ar drothwy’r Nadolig - tybed a fydd adfywiad Abertawe yn dechrau heddiw?

 

*Mae yna sylwebaeth o gemau Abertawe ar BBC Radio Cymru