ERTHYGLAU CYMRAEG- HULL

20th August

Mi oedd hi'n rhyfedd iawn bod yn Turf Mor ddydd Sadwrn diwethaf yn gwylio Abertawe yn chwarae yn erbyn Burnley heb Ashley Williams yn nhîm Yr Elyrch. Ar ôl 8 mlynedd o wasanaeth ffyddlon mae capten Cymru wedi penderfynu bod yr amser wedi dod am her newydd. A dwi'n siwr bod y rhan fwyaf o ffyddloniaid Y Liberty yn dymuno'r gorau iddo yn Everton.
Dwi'n cofio bod allan yn Luxembourg yn ei wylio fo yn chwarae ei gêm gyntaf dros Gymru nôl yn 2008 ychydig ddiwrnodau cyn iddo symud o Stockport County i Abertawe (ar fenthyg yn wreiddiol). Ac er nad oedd Luxembourg yn dîm da iawn fe greodd Ashley argraff anferth y noson honno. Mi oedd o'n gryf yn amddiffynol ac yn gyfforddus ar y bêl.
Fe enillodd Abertawe ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth y tymor yna ac mi gafodd y trosglwyddiad ei wneud yn un parhaol. Mae pawb yn gwybod beth ddilynodd yn y blynyddoedd wedyn. Abertawe yn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ac wedyn yn llwyddo i'w sefydlu eu hunain yno. Ac mae Ashley wedi chwarae rhan hanfodol yn y llwyddiant yna.
Dros y pum tymor diwethaf mae o wedi bod yn un o'r amddiffynwyr mwyaf cyson ei berfformiadau yn y gynghrair. Bu'n gawr yng nghanol amddiffyn Yr Elyrch ac yn arweinydd heb ei ail.
Mae pobl yn gofyn i mi bob hyn-a-hyn beth yw fy hoff atgof o Ewro 2016. Y gêm agoriadol yn erbyn Slovakia? Y perfformiad yn erbyn Rwsia? Gôl Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg? Fy ateb i - Ashley Williams yn gwrthod gadael y cae yn rownd yr 16 olaf yn erbyn Gogledd Iwerddon ar ôl iddo ddioddef anaf i'w fraich. Er ei fod o mewn poen mi oedd o'n benderfynol o aros ar y cae i wneud yn siwr bod ei dîm yn cyrraedd rownd yr 8 olaf. "I'm fine" oedd o'n ei weiddi ar Chris Coleman er ei fod yn dal ei fraich mor agos â phosibl at ei gorff.
Er ei fod o bron yn 32 mlwydd oed dwi'n meddwl y gwelwn ni Ashley yn chwarae ar y lefel uchaf am o leiaf dair blynedd arall. Mi fydd o'n golled anferth i Abertawe y tymor hwn, ond mi fydd o'n cael ei gofio fel un o'r chwaraewyr gorau erioed i chwarae dros y clwb.