ERTHYGLAU CYMRAEG - WEST HAM

26th December

Nadolig Llawen! Gobeithio eich bod chi wedi bwyta lot gormod o dwrci a bod Sion Corn wedi bod yn hael.

 

Mae cyfnod y Nadolig yn un cyffrous iawn yn y calendr pêl-droed, sawl gêm mewn cyfnod byr o amser a hwnnw’n un prysur iawn. Ac os ydi Abertawe am aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yna mae'n bwysig eu bod nhw'n ennill o leiaf un o'u dwy gêm nesaf, naill ai yn erbyn West Ham heddiw neu yn erbyn Bournemouth yr wythnos nesaf.

 

Mae’n amlwg nad ydi hwn wedi bod yn dymor i'w gofio hyd yn hyn i'r Elyrch ond mewn ffordd mae ble maen nhw arni 'leni yn debyg iawn i'r sefyllfa yr oedden nhw ynddi yr adeg yma y tymor diwethaf a hynny o ganlyniad i ddechrau siomedig i'r tymor. Er i Garry Monk gael ei ddiswyddo fe lwyddon nhw i ennill 3 o'u 6 gêm gynghrair rhwng y 26ain o Ragfyr a diwedd Ionawr. Ac fe lwyddon nhw i adeiladu ar y rhediad da yna o ganlyniadau wedyn i orffen yn y 12fed safle.

 

Mae'r cyfnod trosglwyddo ym mis Ionawr yn mynd i fod yn allweddol i Abertawe. Er bod Alfie Mawson yn edrych fel chwaraewr hynod o allweddol rwy'n dal i gredu bod angen arwyddo amddiffynnwr profiadol. Maen nhw wedi ildio llawer gormod o goliau hyd yn hyn y tymor yma a heb os yn gweld eisiau Ashley Williams.

 

O bosibl hefyd y byddan nhw'n arwyddo chwaraewr canol cae - mae enw Tom Carroll o Tottenham Hotspur, sydd wedi bod ar fenthyg efo'r clwb yn y gorffennol, wedi cael ei grybwyll.

 

Dim ond dwy gêm gynghrair mae'r Elyrch wedi eu hennill ar Y Liberty hyd yn hyn y tymor yma. Mae angen i'r record yna wella. Braf iawn fyddai gweld cychwyn ar bethau go iawn heddiw yn erbyn West Ham. Pob lwc i Abertawe.