PUMP YR WYTHNOS

1st December

Pump prif stori’r wythnos o garfan Abertawe

CLEMENT YN MWYNHAU BYWYD FEL RHEOLWR ABERTAWE 

Mae Paul Clement wedi datgelu pa mor hapus yw e yn byw yn Abertawe ac yn rheoli’r clwb wrth iddo fwriadu i ysbrydoli newid yn ffodion yr Elyrch.  
Yn siarad â’r wasg yn ystod yr wythnos fe bwysleisiodd y rheolwr ei fod yn teimlo’n rhwystriedig oherwydd perfformiadau siomedig y tîm, ond nid yw hwnna wedi stopio’r gŵr i fwynhau pob munud o fywyd yn Ne Cymru.  

“Rwy’n hoff iawn, iawn o’r clwb. Rwy’n hoffi’r lle, y bobl, y cefnogwyr a’r chwaraewyr.” 
“Rydw i wedi bod yma am 11 mis nawr ac rwy’n gwybod bod cefnogwyr hynod o angerddol yma yn Abertawe ac mae hynny’n rhywbeth sbesial iawn.” 
“Mae nifer fawr o’r cefnogwyr wedi bod yma trwy gyfnodau anodd, gan gynnwys pan oedd y clwb ar fin syrthio allan o’r gynghrair pêl-droed yn gyfan gwbl, a dyna’r cefnogwyr sy’n deall bod cyfnodau anodd yn gorfod digwydd.” 
Nid yw’r Elyrch wedi mwynhau'r cyfnod fwyaf pleserus yn ddiweddar gyda’r tîm yn gaeth i waelodion y gynghrair ar hyn o bryd, ond mae Clement wedi pwysleisio’r pwysigrwydd o aros gyda’n gilydd. 
“Mae e’n bwysig bod pawb yn bositif ac yn cefnogi’r tîm. Dim ond 6 pwynt sydd rhyngom ni a’r 12fed safle felly ni’n bell o syrthio tu ôl i bawb ar hyn o bryd.”  

 

ARWYDDION CRYF O WELLIANT, YN ÔL MIKE VAN DER HOORN 

 

Roedd rhaid i’r Elyrch delio â llawer o bwysau yn Stamford Bridge ar ôl i gôl Antonio Rudiger sicrhau’r fuddugoliaeth i Chelsea ac mae’r golled hyn yn golygu bod Paul Clement a’i ddynion u safle uwchben waelod y gynghrair ar wahaniaeth gôl yn unig.  
Ond mae Mike Van Der Hoorn yn credu bod arwyddion cryf o welliant wedi bod ym mherfformiadau diweddar yr Elyrch er y golled gul yn erbyn Chelsea nos Fercher.  
“Ddechreuon ni’n dda ond wedyn yn yr ail hanner wnaeth Chelsea cynyddu’r pwysau a gwthio ni yn ôl lot fwy ac wedyn, yn anffodus, nhw gaeth y gôl.” 
“Ond i ildio dim ond un gôl yn erbyn Chelsea, mae hynny’n dyst i ba mor ddisgybledig i ni fel tîm o ran amddiffyn.” 
“Er ein bod ni wedi colli roedd llawer o arwyddion positif yn y gêm ac mae e fyny i ni i ddatblygu ac adeiladu ar hynny.” 

 

OLSSON: MAE PETHAU’N MYND I NEWID 

 

Mae Martin Olsson yn sicr bod ffodion yr Elyrch ar fin newid a bod canlyniadau da ar y gweill.  
Wedi’r golled yn erbyn Chelsea nos Fercher mae Abertawe nawr wedi colli pump o’i chwe gêm ddiwethaf a heb sgorio gôl trwy gydol mis Tachwedd.  
Ond ar ôl pwynt a pherfformiad calonogol yn erbyn Bournemouth wythnos diwethaf mae Martin Olsson yn sicr bod y tîm ar y trywydd cywir i symud bant o waelod y gynghrair. 
“Nid yw’r tîm ar y rhediad gorau ar hyn o bryd ond mae pob un ohonom yn benderfynol o newid hynny a dechrau ennill gemau.” 
“Mae e’n galonogol ein bod ni wedi bod yn perfformio lot yn well yn ddiweddar, felly ni’n gobeithio gydag ychydig o lwc bydd canlyniadau da yn dod oherwydd hynny.” 
“Mae llawer o gemau i’w chwarae rhwng nawr a Nadolig ac mae rhaid i ni aros yn bositif ac edrych ymlaen at yr un nesaf yn erbyn Stoke ar y penwythnos.” 

 

“BYDD GÊM STOKE YN TEIMLO FEL ROWND DERFYNOL”  

 

Mae Paul Clement wedi annog ei chwaraewyr i baratoi am gêm fydd yn teimlo fel rownd derfynol oddi cartref yn erbyn Stoke ar ddydd Sadwrn.  
Mae perfformiadau diweddar yr Elyrch wedi dangos bod arwyddion o welliant yn y garfan, ond mae e’n hanfodol bod y tîm yn dechrau casglu pwyntiau os maen nhw am osgoi'r un sefyllfa â thymor diwethaf. 
Ac mae Clement wedi cyfaddef bod ei dîm wedi cyrraedd sefyllfa lle mae rhaid iddyn nhw ddechrau casglu mwy o bwyntiau. 

“Gennym ni gêm enfawr ar y penwythnos yn erbyn Stoke ac mae angen i ni drin y gêm fel rownd derfynol – dyna pa mor bwysig mae e.” 
“Ni pum gêm bant o fod hanner ffordd trwy’r tymor ac i ni ar naw o bwyntiau.” 
“Mae'n rhaid i ni gasglu'r cynifer o bwyntiau sy’n bosib rhwng nawr a mis Ionawr, wedyn bydd syniad gyda ni o faint o waith fydd angen gwneud yn ystod ail hanner y tymor.” 
“Yn debyg i ni mae Stoke yn dîm sydd yn gweld ennill gemau yn beth anodd ar hyn y bryd, ond mae rhaid i ni neud yn dda yn y gêm ar ddydd Sadwrn.” 

 

NEWYDDION Y TÎM 

 

Wrth i’r Elyrch baratoi i fynd i Stoke ar ddydd Sadwrn dyma gipolwg ar ba chwaraewyr fydd Paul Clement yn debygol o ddefnyddio.
Yn erbyn Bournemouth a Chelsea defnyddiodd Paul Clement y siâp 4-4-2, yr un system wnaeth gweithio’n hynod o dda tuag at ddiwedd tymor diwethaf lle wnaeth yr Elyrch bigo lan llawer o bwyntiau i sicrhau tymor arall yn yr Uwch Gynghrair. 
Fydd Clement yn debygol o ddefnyddio’r un system yn erbyn Stoke gyda’r blaenwyr Wilfried Bony a Tammy Abraham yn dechrau gyda’i gilydd am ddim ond yr ail dro'r tymor hwn.  
O ran ffitrwydd fydd Tammy Abraham nôl yn ffit ar ôl dioddef o anaf i’w gefn wythnos ddiwethaf. 

Ni fydd Federico Fernandez yn y garfan ar ôl y newyddion trist o golled ei Dad dros y penwythnos. 

 

Ac mae Kyle Bartley yn parhau i fod yn absenolwr hirdymor i’r Elyrch.