Erthyglau Cymraeg - Arsenal

14th October

Argyfwng? Pa argyfwng? Dyna ymateb y rhan fwyaf o gefnogwyr Abertawe ar ôl y fuddugoliaeth yn Aston Villa y penwythnos diwethaf. Doedden nhw ddim wedi ennill yn eu 6 gêm flaenorol ac am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi mi oedd yna ychydig o bwysau ar Garry Monk.

Ond am berfformiad gwych gan Yr Elyrch ar Barc Villa, yn dangos cymeriad i daro nôl ar ôl mynd ar ei hol hi. A da oedd gweld Gylfi Sigurdsson yn ôl ar ei orau. Tydi'r chwaraewr canol cae ddim wedi cael y dechrau gorau i'r tymor, ond fe chwaraeodd o'n wych ddydd sadwrn diwethaf.

Mi oedd pawb yn Abertawe ar ben eu digon ar ôl y gêm, ond yn anffodus fe gafodd Tim Sherwood ei ddi-swyddo fel rheolwr Villa lai na 24 awr yn ddiweddarach. Tydw i byth yn hoffi gweld rheolwr yn colli ei swydd, a dwi'n cydymdeimlo'n fawr efo Sherwood. Mi gafodd o ei benodi i gadw Villa yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf a fe lwyddodd o i wneud hynny. Tydi canlyniadau ddim wedi mynd o'u plaid y tymor yma ond dwi'n siwr y gwelwn ni Sherwood yn rheoli clwb arall eto'n y dyfodol agos.

O ran y gêm heddiw - wel mae yna sawl gêm gofiadwy wedi bod rhwng Abertawe ag Arsenal ers i'r Elyrch ennill dyrchafiad i'r brif adran nôl yn 2011.

Yn 2012 fe sgoriodd Danny Graham y gôl fuddugol yn Stadiwm Liberty i wrth i dîm Brendan Rodgers ennill o dair gôl i ddwy.

Mae'r Elyrch hefyd wedi profi llwyddiant yn Yr Emirates ar fwy nag un achlysur. Fe enillon nhw o ddwy gôl i ddim yno diolch i goliau Michu yn 2013. Wedyn y tymor diwethaf fe enillon nhw 1-0 diolch i gôl hwyr Bafetimbi Gomis. 

Hefyd y tymor diwethaf fe'r oedd yna fuddugoliaeth gartref wych i dîm Garry Monk o ddwy gôl i un diolch i gic rydd hwyr Gylfi Sigurdsson.

Dwi bob tro'n edrych ymlaen i weld y ddau dîm yma'n wynebu ei gilydd. Tydi heddiw ddim gwahanol.