Erthyglau Cymraeg - Aston Villa

26th December
 
Doedden ni ddim yn erfyn y canlyniad yna brynhawn Sul yn erbyn Spurs, ond mae'n profi unwaith eto i ni, nad oes lle am gamgymeriadau yn y gynghrair hon.
Yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.
O flaen camerau 'Sky Sports', roedden ni gyd yn ymwybodol y byddai'r gêm yn ddeniadol i'w gwylio.
Ni ddechreuodd yr Elyrch yn wych iawn yn ôl ein harfer, wrth i'r ymwelwyr ymosod ac achosi llawer o broblemau yn ystod munudau cynnar y gêm.
Cwympodd nifer o gyfleoedd i Wilfried Bony wrth i'r gêm ddatblygu, ond cafwyd arbediadau gwych gan Hugo Loris a thacl gan Ben Davies i arbed y bêl rhag mynd i  gefn y rhwyd.
Yn sicr roedd yr hanner cyntaf yn ffafrio'r ymwelwyr gyda'r Elyrch yn arddangos llawer o frwdfrydedd i fynd am fuddugoliaeth.
Unwaith eto ar ddechrau'r ail hanner, y gŵr o'r Ivory Coast ddaeth â'r sgôr yn gyfartal wedi iddo gymryd mantais o adlam o flaen y gôl.
Cododd ysbryd a sain yr eisteddle yn sydyn gyda phob cefnogwr yn dangos rhyddhad wrth i Hymns and Arias adleisio o gwmpas Stadiwm y Liberty.
O hynny ymlaen, gwelwyd ymateb gwych gan yr Elyrch am weddill yr ail hanner.
Wrth i'r pwysau godi ar Spurs, cadwon nhw eu trefn ac arddangos yr ansawdd o fewn eu carfan trwy amddiffyn yn gadarn.
Er hyn, parhau i fygwth wnaeth y tîm cartref ac anodd oedd gweld sut allai'r Elyrch orffen y gêm heb unrhyw bwyntiau ar ôl ymateb mor gryf.
Ond heb unrhyw amheuaeth, brwydrodd yr ymwelwyr tan y funud olaf cyn synnu'r tîm gartref gyda'r gôl  hwyr yn dod o droed Christian Eriksen.
Roedd rhwystredig yn glir ar wynebau cefnogwyr yr Elyrch wrth weld pwynt gwerthfawr yn diflannu mor sydyn.
Ydy'r ddwy gêm ddiwethaf wedi dangos i ni fod 'na rhywbeth ar goll yng nghanol cae? Ydym ni'n dibynnu gormod ar Bony?
Mae llawer o'r chwarae yn tueddu i gyfeirio at y blaenwr gan amlaf, felly daw'n glir iawn fod angen datblygu amrywiaeth o strategaethau eraill o gwmpas y cae.
Bydd Bony ddim ar gael yn ystod Cwpan Cenhedloedd Affrica o ddechrau mis Ionawr, felly dyma roi cyfle i'r chwaraewyr eraill yn y garfan i brofi pwynt.
A fydd Garry Monk yn edrych i ddod â rhywun newydd i mewn ym mis Ionawr i lenwi'r bwlch yn lle?
Heddiw croesawn Aston Villa.
Dyma dîm sydd wedi dioddef cyfnod rhwystredig hefyd yn ystod y tymor hwn.
Gyda chwaraewyr peryglus i fyny'r cae fel Benteke, Weimann, a Agbonlahor, gallai'r  Elyrch fod yn brysur yn amddiffyn os na allant  reoli'r gêm o'r gic gyntaf.
Gobeithio bydd unrhyw gyfleoedd sy'n codi yn cael eu cymryd, a bod tri phwynt ychwanegol ym mhoced Garry Monk erbyn y chwiban olaf.
Pob lwc i'r Elyrch.