Erthyglau Cymraeg - Chelsea

17th January
 
Pe bai rhywun wedi dweud wrthych chi fel cefnogwr, fod Yr Elyrch yn mynd i fod  yn y 9fed safle ar ddechrau blwyddyn newydd,  a fyddech chi wedi eu credu? Bu'n ymgyrch llwyddiannus hyd yn hyn, tipyn o brofiad fyddai gweld Garry Monk yn  arwain y garfan ym mhellach i fyny'r Uwch Gynghrair erbyn diwedd y tymor.
Rhaid cofio wrth gwrs, mae antur y Cwpan FA yn dal yn fyw. Bu nifer o newidiadau i'r tîm oddi cartref yn erbyn Tranmere, cyfrannodd pawb  at yr achos gyda sawl un ohonynt yn haeddu canmoliaeth. Hynny yw, mae'r garfan yn cynnig nifer o opsiynau i Garry Monk, sydd  yn fantais amlwg.
Er nad yw Kyle Bartley wedi cael llawer o gyfleoedd dros y ddau dymor diwethaf, ddangosodd ei gryfder amddiffynnol a phrofi pwysigrwydd ei bresenoldeb yn y garfan pan gafodd y cyfle i ddechrau dwy gêm yn olynol.
Ers hynny, mae Federico Fernandez wedi dychwelyd ar ôl gwella o'i anaf, heb ddangos unrhyw dystiolaeth o seibiant o'r  cae.
Yn ogystal, mae Jordi Amat ar gael hefyd, felly mae canol yr amddiffyn yn edrych yn gref iawn. Dyma elfen allweddol sydd yn mynd i'n helpu ni  i ddringo'r gynghrair.
Chwaraewr i mi sydd wedi dangos llawer o aeddfedrwydd yn ystod ei amser gyda'r Elyrch hyd yn hyn yw Tom Carroll bach.
Yn chwaraewr ifanc sy'n amlwg â dealltwriaeth o'r gêm, mae'n gwella dro ar ôl tro, gyda sgiliau pasio arbennig. Yn chwaraewr a gymharwyd gyda Joe Allen o ran steil a'r gallu gweledol, a hefyd yn meddu  ar y gallu i glymu'r meddiant yng nghanol cae heb unrhyw anhawster.
Profwyd hyn yn erbyn West Ham penwythnos diwethaf. Gyda'r gwrthwynebwyr yn gyfarwydd â chwarae gyda steil pêl droed traddodiadol, ymdopodd Tom Carroll gyda'r dasg trwy gydol y nawdeg munud. Gan gadw'r bysedd wedi'u croesi, gobeithio gall y clwb ddatrys ffordd o arwyddo'r bachgen ifanc erbyn ddiwedd y tymor. Byddai'n sicr o fod yn chwaraewr allweddol i Abertawe yn y dyfodol.
Heddiw mae Chelsea yn ymweld â'r Elyrch ar ôl ennill o ddwy gôl i ddim yn erbyn  Newcastle yn Stamford Bridge.
Tîm sydd yn edrych yn ddisglair ar ben yr Uwch Gynghrair y tymor yma gyda phedwar deg naw pwynt, a hefyd yn ffefrynnau i godi'r cwpan.
Felly, mae'n mynd i fod yn dipyn o brofiad i'r chwaraewyr, pwy bynnag mae Garry Monk yn dewis i ddechrau'r  gêm. Bydd yn gyfle gwych i bawb greu argraff enfawr, a hefyd difetha parti i Mr. Mourinho.