Erthyglau Cymraeg - Leicester

5th December
 
Roedd Neil Taylor yn teimlo fod ' rhywfaint o newid er gwell ' yn safon perfformiad Abertawe yn erbyn Lerpwl yn Anfield brynhawn Sul diwethaf - sylw teg yn fy marn i - ond y prynhawn yma mae Taylor a'i gyd-chwaraewyr yn debygol o orfod gwella llawer mwy i guro Caerlŷr.
Wrth sôn am wella'n fawr, dyna'n union mae'r tîm o Ganolbarth Lloegr wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;  a'r tymor hwn gyda'r Eidalwr Claudio Ranieri yn rheolwr yn lle Nigel Pearson maen nhw wedi perfformio'n ardderchog nifer o weithiau ac wedi bod ar frig y tabl.
Mae hi'n rhyfedd meddwl yr adeg yma'r llynedd eu bod nhw ar waelod y tabl a wnaethon nhw ddim codi o'r gwaelod tan 18 Ebrill eleni ar ôl iddyn nhw ennill 2-0 yn erbyn Abertawe yn Stadiwm King Power.
Ysgrifennodd y gohebydd a'r ystadegydd pêl-droed Bill Edgar am y gwelliant trawiadol yng nghanlyniadau Caerlŷr mewn erthygl yn atodiad pêl-droed " The Game" ym mhapur newydd 
" The Times " Ddydd Llun 9 Tachwedd.
Ar ddechrau Ebrill doedden nhw ond wedi sicrhau 10 pwynt yn y 21 gêm cyn hynny ( 2 fuddugoliaeth, 4 gêm gyfartal a 15 colled ), ond yn y 21 gêm ar ôl hynny cawson nhw 47 o bwyntiau ( 14 buddugoliaeth, 5 gêm gyfartal a 2 golled ).
Mae hynny'n newid anhygoel ac mae hi'n deg dweud fod campau sgorio eu hymosodwr Jamie Vardy y tymor yma yn anhygoel hefyd. Bydd Vardy'n ceisio sgorio yn ei 12fed gêm Gynghrair yn olynol heddiw ar ôl iddo fo guro record Ruud van Nistelrooy yn erbyn cyn-glwb van Nistelrooy Manchester United y Sadwrn diwethaf.
Y tro diwethaf i Vardy chwarae yma yn Stadiwm Liberty wnaeth o ddim sgorio a wnaeth o fawr o argraff chwaith.
Daeth eilydd i'r maes yn ei le o yn ystod ail hanner y gêm gollodd Caerlŷr 2-0 ar ôl i Wilfried Bony sgorio ddwywaith ar 25 Hydref y llynedd.
Y prynhawn yma does ond gobeithio y gall chwaraewr arall sgorio i Abertawe mewn buddugoliaeth fuasai'n hwb anferth i Garry Monk a'i dîm cyn her fawr arall iddyn nhw ar faes Manchester City ymhen wythnos.