Erthyglau Cymraeg - Norwich City

29th March
 
Ble allwn i ddechrau? Y canlyniadau gwael, neu'r elfen bositif o gael yr holl garfan yn ôl yn heini?
Oes allwn ni fynd yn ôl i'r gêm yn erbyn West Brom.
Dwi'n siŵr fydd pawb yn cytuno fod 'na rhyw deimlad o 'de ja vu' wrth gerdded allan o'r Liberty. Roedd 'na adlewyrchiad perffaith o'r gêm yn erbyn Palace.
Gan ddechrau'n wych o'r gic gyntaf, roedd y perfformiad gan bawb yn ardderchog... Hyd nes i fyny tuag hanner amser. Yn ystod y pum munud cyntaf wrth i'r gêm ail-gychwyn, wnaeth y gwrthwynebwyr ymddangos yr angen i ennill.
A dyna beth yn union sydd wedi bod ar goll dros yr pythefnos diwethaf. Rhaid i ni gofio fod 'na ddim amser i eistedd yn ôl ac ymlacio amser hyn o'r flwyddyn.
Does 'na ddim rheswm oes ydym yn chwarae yn erbyn Chelsea (fel sydd ar ddiwedd y tymor), neu yn erbyn un o'r timoedd yn agos i waelod y gynghrair fel ni, mae pawb yn ymladd am y pwyntiau.
Fel gwnes i ddweud pythefnos yn ôl, mae'n rhaid i ni gymryd mantais o'r garfan llawn sydd ar gael gennym nawr.
Dwi'n credu bydd pawb yn falch i weld Michu nôl ar y cae ar ôl 3 mis i ffwrdd. Heb anghofio pwysigrwydd Shelvey a Hernandez yn ôl yn heini.
Heddiw ni'n croesawi Chris Houghton a'r garfan sydd wedi bod yn chwarae'n ardderchog dros y gemau diwethaf.
Dwi'n sicr fydd hi'n gystadleuaeth gyffrous rhwng y ddau dîm heddiw, gyda 'Jack Army' yn amlwg i fod yn ffrwydro o bob cornel yr eisteddle heddiw.
Felly, gobeithio bydd y canlyniad yn pwyso yn erbyn ni am y tro hon. Mi fydd tri phwynt yn werthfawr iawn!
Pob lwc i Garry Monk a'r bechgyn!
Dewch ymlaen Abertawe!