Erthyglau Cymraeg - QPR

2nd December
 
Adwaenir ef i lawer fel Alan Tate, gelwir ef yn Tate gan eraill. Ond i ni fel aelodau a chefnogwyr y Clwb "Tatey" yw'r enw naturiol.
Adwaenid ef  i bobl fel Alan Tate, fe adnabwyd i eraill fel Tate. Ond, i ni fel aelodau a chefnogwyr y clwb, ni gyd yn ymwybodol taw fe yw un o'r sêr mwyaf dros y ddegawd diwethaf, ac yn aelod allweddol o ran antur y clwb ers y fuddugoliaeth enwog yn erbyn Hull City draw yn yr hen Vetch.
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf bydd Alan Tate yn gadael Stadiwm y Liberty ar ddiwedd y tymor. Nid yw'n sicr yn union lle fydd e'n chwarae tymor nesaf, ond mae'n amlwg iawn ei fod yn mwynhau ei gyfnod ar hyn o bryd gyda Crewe Alexandra.
Daeth Tate ar fenthyciad o Fanceinion Unedig nôl yn 2002, cyn arwyddo cytundeb parhaol yn 2004. Ers iddo ymuno â'r clwb, mae e wedi bod yn bersonoliaeth gref o ran proffil y garfan.
Heb ddangos llawer o sgiliau disglair ar y cae, mae e bob amser wedi ymdrechu 110% ym mhob gêm, gyda'r ymddygiad proffesiynol i gefnogi hynny hefyd.
Yn gapten cyntaf Abertawe yn yr uwch gynghrair, mae'n aelod sydd wedi arwain y tîm ar sawl achlysur. Yn gymeriad hefyd oddi ar y cae, mae'n enghraifft o ran proffesiynoldeb i unrhyw chwaraewyr ifanc sydd eisiau arwain yn yr un cyfeiriad.
Felly pob lwc iddo gydag unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol, ond rwy'n sicr bydd yn bresennol yng nghanol yr eisteddle am nifer o flynyddoedd i ddod.
Eto, mae Garry Monk a'r bechgyn wedi profi y gallwn gystadlu yn erbyn unrhyw dîm yn yr uwch gynghrair. Rydym wedi profi hyn o'r blaen ar sawl adeg.
Nid oes unrhyw gêm yn fy marn sy'n dod i'r cof lle nad yw'r hyder wedi bodoli. Mae hyder yn rhinwedd nad yw'n gallu datblygu dros nos neu gael ei brynu oddi ar y silff.
Gyda Garry Monk yn parhau i brofi llawer o bobl yn anghywir, mae'n amlwg fod popeth yn drefnus ac hefyd bod yr adnoddau gorau posib yn eu le.
Math o awyrgylch y byddai nifer o glybiau yn breuddwydio amdano, mae'n siwr.
Heddiw croesawn ymwelwydd arall o ben arall yr M4.
Tymor diflas yw hi hyd yn hyn i Queens Park Rangers gyda dim ond 8 pwynt wedi'u cofnodi.
Er i Harry Redknapp arwyddo nifer o enwau blaenllaw fel Rio Ferdinand a Steven Caulker i gryfhau'r llinell gefn cyn dechrau'r tymor, mae'n amlwg bod llawer o bethau ar goll.
Yn eistedd ar waelod y gynghrair rwy'n sicr y bydd Mr. Fernandez yn edrych am unrhywbeth heno i'w hachub nhw o ddyfnder y tywyllwch.