Erthyglau Cymraeg - Stoke City

2nd May

Unwaith eto, mae'r Elyrch yn parhau torri record arall wrth iddynt gasglu 50 pwynt yn barod y tymor yma. Yn fwy na unrhyw gyfnod diwethaf yn yr Uwch Gynghrair. Yn rhywbeth fydd Garry Monk yn falch ohono, wrth i'r chwaraewyr ymdrechu'n arbennig o dan eu hyfforddiant hyd yn hyn.

Gyda'r wasg yn pwysleisio ar di-brofiad Monk fel hyfforddwr pob tro, ond mae eu trefn a chefnogaeth o gan yr holl garfan, yn gymysgedd allweddol am unrhyw lwyddiant. Nid yw'n newyddion ni ellir unrhyw gefnogwr ddim credu ynddo achos mae pawb sydd yn gyswllt a Dinas Abertawe yn gwybod fod yr elfennau angenrheidiol i gystadlu'n llwyddiannus yn y gynghrair yma yn bresennol o hyd.

Roedd hi'n berfformiad aeddfed dydd Sadwrn diwethaf yn erbyn Newcastle wrth i'r Elyrch colli yn erbyn Caerlŷr wythnos yn gynt. Felly, roedd hi'n bwysig fod yr Elyrch yn ateb nôl yn gryf, a dyna beth yn union digwyddodd. Wnaeth y tîm gartref fynd ar y blaen ar ôl i Ayoze Perez cymryd mantais o'r camgymeriad gan Jordi Amat o flaen gol yng nghanol yr hanner cyntaf.

Ymatebodd yr Elyrch gyda Nelson Oliveira yn sgori o'r gornel cyn hanner amser. Yn gôl gyntaf i Oliveira o dan y crys wen, wnaeth o ddangos llawer o frwdfrydedd yn ystod hanner galed iawn yn haeddu'r gôl am eu hymdrech.

Ni ellir wedi gofyn am ddechrau gwell i'r ail hanner wrth i symudiad clyfar gan Oliveira yn twyllo'r llinell cefn Newcastle i greu le i Gylfi Sigurdsson a oedd yn ymosod wrth ymyl y bocs.

Gyda llawer o amser ar ôl yn y gêm, ni chymerwyd mantais o'r cyfle gan y tîm gartref wrth i'r Elyrch ychwanegu gôl arall i'r bwrdd gyda Jac Cork yn dylanwadu'r holl symudiad ac yn sgori ar y diwedd. Wnaeth De Jong tynnu un yn ôl yn nes agos i'r chwiban olaf, ond roedd Newcastle yn ddiymadferth i atal Abertawe rhag hawlio eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol ym Mharc St James, a dim ond yr ail dîm sydd i'w gyflawni o safle colli.

Wrth i ddiwedd y tymor ddod yn nes, a llawer o edrych nôl drosodd, wnes i gael cyfle i siarad gydag un cefnogwr o'r enw Kian Griffiths sydd yn 10 mlwydd oed. Yn gefnogwr sy' ddim ond yn un o'r niferoedd ifanc yn yr eisteddle dyddiau yma sydd wedi cael y profiad o weld yr Elyrch yn ddatblygiad ers y dyddiau tywyll. Yn chwaraewr ifanc eu hunan, roedd e'n ddiddorol iawn i glywed pa fath o argraff mae e wedi cael arno.

"Gobeithio bydd yr Elyrch yn gallu gwthio ym mhellach i'r gêm olaf y tymor yma ac yn gosod sylfaen cadarn yn barod ar gyfer ddechrau'r tymor nesaf. Er bod Garry Monk yn newydd fel hyfforddwr, dwi'n credu ei fod e wedi dangos i nifer o bobl bod llwyddiant yn bosib i unrhyw unigolyn os ydych yn gallu bod yn drefnus."