Erthyglau Cymraeg - Sunderland

13th January
 
Yn syml - mae'r gêm yn erbyn Sunderland heno'n un dyngedfennol i Abertawe. Dwi'n meddwl bod pawb sy'n gysylltiedig efo'r clwb wedi derbyn y ffaith bellach eu bod nhw'n wynebu brwydr i aros yn y gynghrair. Ac i wneud yn siwr eu bod nhw'n goroesi mae'n holl bwysig cael canlyniadau positif yn erbyn timau sy'n yr un sefyllfa.
 
Yn bersonol dwi'n meddwl fod yna hen ddigon o dalent yng ngharfan Yr Elyrch i osgoi'r gwymp. Mae'r perfformiadau diweddar yn y gynghrair o dan arweinyddiaeth Alan Curtis wedi bod yn rhai addawol a chalonogol. Oni bai am eiliad ddewinol gan Wayne Rooney yn Old Trafford yna mi fysan nhw wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Manchester United.
 
Dwi'n casau clywed yr ystrydeb bod timau yn "rhy dda" i ddisgyn i'r Bencampwriaeth. Rai tymhorau'n ôl dyna'n union ddigwyddodd i Newcastle er bod ganddyn nhw ymosodwyr o safon Michael Owen, Mark Viduka ac Obafemi Martins yn eu carfan. Mae'n bwysig fod chwaraewyr Abertawe'n anwybyddu popeth sy'n cael ei ddweud amdanyn nhw yn y wasg ac yn gwneud yn siwr eu bod nhw'n rhoi cant y cant ymhob gêm rhwng rwan a diwedd y tymor.
 
Ar hyn o bryd mae Sunderland mewn safle mwy bregus na thîm Alan Curtis. Er iddyn nhw drechu Aston Villa yn eu gêm ddiwethaf maen nhw'n dal un safle o waelod y gynghrair. Ond mae un peth yn sicr - o dan arweinyddiaeth Sam Allardyce dydi'r tîm yma ddim yn mynd i roi'r ffidil yn y to. Ar ôl i Dick Advocaat adael ei swydd doedd hi ddim syndod o gwbl gweld y clwb yn penodi Allardyce. Mae ganddo flynyddoedd o brofiad o gadw timau yn yr Uwch Gynghrair a dwi'n siwr y gwelwn i o yn cryfhau ei garfan yn effeithiol yn ystod y mis.
 
Mae'r gêm heno felly yn un holl bwysig i Abertawe am ddau reswm. Maen nhw angen y tri phwynt er eu lles eu hunain, a maen nhw hefyd angen gwneud yn siwr nad yw Sunderland yn ennill dwy gêm gynghrair yn olynol ac yn creu momentwm iddyn nhw eu hunain. Digon yn y fantol felly.