Erthyglau Cymraeg - Sunderland

7th February
 
Dwi'n siŵr fod pob cefnogwr Abertawe wedi bod yn falch o weld y ffenestr drosglwyddo'n cau nos lun. Mi oedd mis Ionawr yn fis prysur i'r Elyrch a dweud y lleiaf, efo Wilfried Bony yn gadael i ymuno â Manchester City a'r clwb yn arwyddo Kyle Naughton, Matt Grimes, Jack Cork yn barhaol, a Nelson Oliveira ar fenthyg.
 
Heb os ac oni bai mi fydd Bony yn golled enfawr. Mi oedd o'n sgoriwr o fri ac mi oedd o hefyd yn wych am greu cyfleoedd i eraill. Mater o amser oedd hi cyn iddo symud i un o glybiau mwyaf Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl sgorio 25 o goliau y tymor diwethaf.
 
Mae Bony wedi gadael gwagle mawr yn y llinell flaen sy'n golygu fod gan Bafetimbi Gomis gyfle euraidd rŵan i greu argraff yn y tîm cyntaf. Mae pawb yn ymwybodol nad yw Gomis yn rhy hapus ei fod o wedi bod yn ail ddewis i Bony am y rhan fwyaf o'r tymor.
Yn wir fe wnaeth o gyfweliad efo gorsaf deledu o Ffrainc yn mynegi ei rwystredigaeth dair wythnos yn ôl gan awgrymu ei fod o'n ystyried gadael y clwb. Ond gan fod y ffenestr drosglwyddo wedi cau bellach does ganddo ddim dewis ond aros yn Ne Cymru.
 
Dwi'n deall i raddau pam ei fod o wedi disgwyl dechrau mwy o gemau yn ystod misoedd cyntaf ei gyfnod efo Abertawe. Mi gafodd ei gysylltu efo chlybiau megis West Ham a Newcastle cyn arwyddo i dîm Garry Monk.
Mae o'n chwaraewr rhyngwladol efo Ffrainc ac mi oedd o'n ddewis cyntaf yn ei gyn glwb Lyon. Yr her iddo fod rŵan ydi anghofio am beth ddigwyddodd ar ddechrau'r tymor a chanolbwyntio ar sgorio cyn gymaint o goliau â phosibl cyn diwedd mis Mai.
 
O ran y chwaraewyr mae Monk wedi eu denu i Abertawe, dwi'n meddwl ei fod o wedi cryfhau'r garfan yn effeithiol. Er bod Angel Rangel wedi bod yn was ffyddlon dros y blynyddoedd, mae o'n 32 mlwydd oed bellach felly mae arwyddo Kyle Naughton yn profi fod Monk yn edrych i'r dyfodol.
O beth yr wyf wedi ei weld o Jack Cork mae o'n chwaraewr taclus, ac mae'n bosibl mai fo ydi'r chwaraewr i gymryd lle Leon Britton yn y tîm wedi iddo ymddeol. Tydw i ddim yn gwybod ryw lawer am Nelson Oliveira a Matt Grimes - ond mae gennyf ffydd yn Monk y bydd y ddau ohonyn nhw'n gaffaeliad i'r garfan.
 
Mi fydd hi'n ddiddorol gweld beth ddigwyddith ar ddiwedd y tymor pan fydd y ffenestr drosglwyddo yn ail agor. Ond am y tro o leiaf dwi'n meddwl fod gan Monk garfan ddigon da i orffen o fewn yr wyth safle uchaf yn yr Uwch Gynghrair.
 
Cofiwch fod yna sylwebaeth lawn o bob gêm Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr ar BBC Radio Cymru