ERTHYGLAU CYMRAEG - SUNDERLAND

10th December

Doedd colli'n drwm oddi cartref yn Spurs y Sadwrn diwethaf ddim yn ddiwedd y byd yn fy marn i. Yn y pen-draw doedd dim disgwyl i Abertawe fynd i White Hart Lane a chael canlyniad da. Mae Spurs yn un o'r ffefrynnau i ennill Uwch Gynghrair Lloegr ddiwedd y tymor, felly doedd hi ddim yn gywilydd colli yn eu herbyn.

Gemau fel yr un yma yn erbyn Sunderland heddiw sy'n rhaid i'r Elyrch eu hennill os am osgoi disgyn i'r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor. Wrth edrych ar y gynghrair mae'n hawdd gweld pam fod Jordi Amat wedi ei disgrifio hi fel "rownd derfynol". Mae tîm Bob Bradley nôl ar y gwaelod tra bo Sunderland a David Moyes wedi cael rhyw fath o adfywiad diweddar, gan ennill 3 o'u 4 gêm ddiwethaf sydd wedi eu codi nhw i'r 18fed safle.

Ydi hi'n rhy gynnar yn y tymor i ddweud fod hon yn gêm mae'n rhaid i Abertawe ei hennill? Mae ddigon posibl ei bod hi. Ond mi fysa colli heddiw yn eu gadael nhw mewn dyfroedd dyfnion iawn a'r peth olaf maen nhw am ei weld ydi tîm fel Sunderland yn ennill gêm arall ac yn parhau â'u rhediad da diweddar.

Mae pethau mor agos ar waelod y gynghrair ar y funud. Fe all tri phwynt heddiw godi Abertawe allan o'r tri safle isaf. Ac mae eu 5 gêm nesaf nhw hefyd yn erbyn timau y bydden nhw’n hyderus o ennill pwyntiau yn eu herbyn – West Brom, Middlesbrough, West Ham, Bournemouth a Crystal Palace. Felly mae yna ddigon o reswm i deimlo'n eitha ffyddiog beth bynnag ar drothwy cyfnod pwysig Y Nadolig.

Roedd y gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Palace y gêm fwyaf cyffrous yn Uwch Gynghrair Lloegr hyd yn hyn y tymor yma. Naw gôl a thensiwn tan yr eiliadau olaf un. Mae angen i Abertawe ddangos yr un cymeriad ac ysbryd unwaith eto heddiw os ydyn nhw am sicrhau buddugoliaeth holl bwysig yn erbyn Sunderland.