Erthyglau Cymraeg - Tottenham Hotspur
13th December
Mae'r cyfnod yna yng nghalendr y flwyddyn wedi ein cyrraedd unwaith eto.
Hyfforddwyr o wledydd tramor yn cwyno am yr amserlen hynod brysur ac yn poeni am unrhyw broblemau sy'n gallu codi yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ni'n gwybod yn union pwy ydyn nhw.
Gobeithio bydd Yr Elyrch yn barod i gasglu fwy o bwyntiau gwerthfawr dros y Nadolig. Gyda rhyw bedair gêm yn ystod y pythefnos nesaf, un gêm gartref yn erbyn Aston Villa a'r lleill oddi cartref yn erbyn Hull, Lerpwl a QPR, nid yw'n mynd i fod yn gyfnod rhwydd iawn i'r Elyrch.
Yn Rhagfyr 2013, roedd Michael Laudrup yn wynebu cyfnod heriol iawn, gyda nifer o anafiadau, ac fe effeithiodd hyn ar berfformiad y tîm. Gyda bysedd wedi'u croesi gobeithiwn ni fydd Garry Monk yn wynebu'r un fath o sefyllfa.
Cafwyd perfformiad arbennig gan Yr Elyrch yn erbyn Queens Park Rangers, gyda sêr y garfan yn disgleirio unwaith eto.
Achoswyd llawer o broblemau i'r gwrthwynebwyr gyda Rob Green yn gwneud sawl arbediad ardderchog trwy gydol y gêm.
Gwych oedd gweld Ki Sung-yueng yn sgorio ei gôl gyntaf i'r Elyrch yn Stadiwm y Liberty.
Ers iddo dychwelyd o Sunderland, mae e wedi datblygu i fod yn chwaraewr sy'n llawer mwy cyflawn, yn gwneud symudiadau effeithiol yng nghanol y cae, gan ddylanwadu ar fwy o gyfleoedd i weddill y garfan o'i gwmpas.
Dyma i chi aelod o'r garfan sy'n sicr o wella wrth i'r tymor hwn fynd rhagddo.
Ar y llaw arall, roedd hi'n eithaf doniol gweld Harry Radknapp yn dadlau gyda staff ei hunan ar y fainc.
Wrth i'r momentwm ddisgleirio i'r Elyrch dros yr wythnosau diwethaf, pilsen anodd ei llyncu brynhawn Sul oedd y gêm yn erbyn West Ham.
Roedd llawer o elfennau gwych gan Garry Monk i'w hystyried dros yr wythnos flaenorol, byddai'r hyder wedi bod yn gryf iawn.
Achosodd yr Elyrch ddim llawer o broblemau yn ystod yr ugain munud cyntaf, gydag ond Andy Carroll a Kevin Nolan yn dangos unrhyw botensial o roi'r bêl yng nghefn y rhwyd gan golli nifer o gyfleoedd cynnar i sgorio.
Ond, gallwn ni ddim cwyno ar ôl i Wilfried Bony roi'r bêl yng nghefn y rhwyd a synnu'r cefnogwyr cartref. Yn anffodus, ni welwyd fflach wedi hynny.
Ymatebodd West Ham yn gryf gyda Andy Carroll yn sgorio ddwy gôl ac un gan Diafra Sakho yn rhoi'r geiriosen ar y gacen i Sam Allardyce.
Heddiw croesawn dîm arall o Lundain sef Tottenham Hotspur. Tîm sydd wedi cael cyfnod rhwystredig wrth ddisgwyl am gyfle i ddringo'n agosach at dop y gynghrair yn ystod tymor hwn. Mae ansawdd y garfan yn ddigon dwfn i beri newid.
Gobeithio taw'r Elyrch fydd yn gallu ymateb nôl i siom penwythnos diwethaf a chamu ymlaen yn hyderus o flaen y camerâu fyw.