Erthyglau Cymraeg - West Brom

15th March
 
Nid allai'r egwyl fer ryngwladol wedi dod ar unrhyw adeg well i'r Swans dros y penwythnos diwethaf.
Nid does unrhyw glwb arall o amgylch ni yn y gynghrair wedi dod yn nes i nifer o gêmau rydyn ni wedi chwarae y tymor yma.
Dwi ddim eisiau chwarae'r corn yn rhy gynnar eto, ond wrth edrych ar y garfan sydd gennym, a'r ymdrech hyd yn hyn, mae pawb yn haeddu clod sy'n anferth ofnadwy.
Efallai nad yw'r canlyniadau wedi bod yn ddisglair ar adegau, ond wnaethom ni cystadlu mewn sawl cystadleuaeth ers ddechrau'r tymor (yn cynnwys Ewrop), ac mae honna'n rhagorol iawn i unrhyw gefnogwr pêl droed.
Gobeithio gallwn ni nawr ddechrau ffocysu ar y gemau nesaf sydd o'm flaenau, a chynnal ein presenoldeb ar gyfer yr uwch gynghrair tymor nesaf.
Er nad oes cymaint o'r timoedd tua phen y gynghrair i ddod am weddill y tymor, mi fydd angen i ni ystyried fod pob un o'r gwrthwynebwyr o hyn ymlaen yn edrych am ddim llai na tri phwynt.
Fel ni wedi gweld yn y gorffennol, mae amser hyn o'r flwyddyn yn rhyfedd o ran canlyniadau, a gallai unrhyw beth digwydd.
Gyda'r holl garfan yn heini erbyn heddiw, a dim ond y gynghrair i ganolbwyntio arno o hyn ymlaen, dwi'n fwy na hyderus mi fydd popeth yn gwella dros yr wythnosau nesaf.
Heddiw ni'n rhoi croeso cynnes i Pepe Mel a'i garfan o West Bromwich Albion.
Eto, clwb arall sy'n ymladd i sicrhau safle ar gyfer tymor nesaf. Fi'n siŵr fydd hi'n gêm gyffrous o dan yr amgylchiadau.
Pob lwc i Garry Monk a'r bechgyn! Dewch ymlaen Abertawe! Rydym ni pob amser yn mynd i fod yn wyn!