Erthyglau Cymraeg - West Ham

19th December
 
Wrth i Abertawe baratoi ar gyfer y gêm gartref gyntaf ers i Garry Monk golli'i swydd, mae hi'n rhyfedd meddwl mai West Ham oedd gwrthwynebwyr yr Elyrch yng ngêm gyntaf eleni yn Stadiwm Liberty. Sylwebais i ar y gêm honno ar 10 Ionawr a daeth tîm Monk yn ôl yn dda i sicrhau gêm gyfartal 1-1 a phwynt roedden nhw'n ei haeddu yn erbyn tîm Sam Allardyce oedd yn 7fed - 2 safle'n uwch nag Abertawe.
Ar ôl i'r Elyrch orffen y tymor diwetha yn 8fed a dechrau'r tymor hwn mewn modd mor gampus mae hi'n anodd esbonio beth yn union sydd wedi mynd o'i le ers y fuddugoliaeth wych o 2-1 dros Manchester United ar 30 Awst.
Ar ôl y gêm, yn yr adroddiad recordiais i ar gyfer BBC Radio Cymru tynnais i sylw at gyfraniad allweddol Monk i'r canlyniad gan mai'r rheolwr benderfynodd newid patrwm chwarae'r tîm i ddiemwnt yng nghanol y cae ar ôl i United fynd ar y blaen.
Yn yr un gêm Gynghrair ar ddeg nesaf methodd Monk wneud yr un fath o argraff ag y gwnaeth o yn erbyn tîm Louis van Gaal a thalodd o'r pris am hynny. Roedd hynny'n drueni mawr ond doedd gan y cadeirydd Huw Jenkins ddim dewis ond chwilio am reolwr arall yn fy marn i.
Erbyn i chi ddarllen yr erthygl hon mae hi'n bosibl y bydd y rheolwr hwnnw wedi'i benodi - rydw i'n ysgrifennu'r erthygl ar y nos Fawrth cyn y gêm yn erbyn West Ham.
Y nod i bwy bynnag fydd yn gofalu am y tîm fydd adeiladu ar y perfformiad calonnogol ar faes Manchester City y Sadwrn diwethaf. Roedd hi'n braf gweld Bafetimbi Gomis yn dod â'i record wael o flaen y gôl i ben yn Stadiwm Etihad ond buasai'n brafiach fyth gweld chwaraewr sydd ddim wedi sgorio'r tymor hwn yn gwneud hynny yn erbyn yr 'Hammers'.
Ar wahan i Gomis, Andre Ayew, Gylfi Sigurdsson a Jonjo Shelvey yw'r unig dri chwaraewr arall sydd wedi sgorio yn Yr Uwch Gynghrair y tymor yma.
Daeth dwy gôl Sigurdsson o'r smotyn ac o gic rydd ac un Shelvey o'r smotyn felly mae hi'n amlwg fod angen mwy o goliau o 'chwarae agored'.
Gobeithio y gwelwn ni o leiaf un gôl o 'chwarae agored' yn erbyn West Ham, a gobeithio y cewch chi Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.