Rhagolwg: Abertawe v Bournemouth

25th November

Bydd yr Elyrch yn bwriadu newid eu ffurf siomedig ar ddydd Sadwrn wrth iddynt groesawu AFC Bournemouth i’r Liberty y prynhawn yma (3y.p).

Ar ôl colli 2-0 yn erbyn Burnley penwythnos diwethaf mae dynion Paul Clement yn gaeth i waelodion y gynghrair ac wedi colli ei pedair gêm ddiwethaf. Nid yw’r Elyrch erioed wedi colli pum gêm yn olynol yn ei hanes yr Uwch Gynghrair felly mae buddugoliaeth penwythnos yma yn hanfodol os mae’r ystadegyn yna am barhau.   

Ond fydd gan Abertawe tasg anodd o’i blaenau wrth iddynt wynebu tîm Eddie Howe sydd wedi troi pethau o gwmpas yn ddiweddar. Mae’r Cherries wedi ennill tair o’i pum gêm ddiwethaf, gan gynnwys y fuddugoliaeth swmpus yn erbyn Huddersfield penwythnos diwethaf pan enillon nhw 4-0.  

Mae canlyniadau diweddar Bournemouth yn dystiolaeth o sut gall rhediad da o ganlyniadau da newid ffawd clwb pêl-droed, rhywbeth sydd angen i Abertawe gwneud os maent am barhau i fod yn glwb Uwch Gynghrair tymor nesaf.  

 

Newyddion y Tîm 

Y newyddion siomedig i gefnogwyr Abertawe yw bod Tammy Abraham yn debygol o golli’r gêm yn erbyn Bournemouth ar ôl dioddef o anaf i’w gefn yn erbyn Burnley penwythnos diwethaf.   

Mae Kyle Bartley yn parhau i fod yn absenolwr hirdymor. 

 

Gair gan y rheolwr 

Rheolwr Abertawe Paul Clement: “Rydym yn siomedig iawn gyda’n perfformiadau diweddar ni – mae rhediad o berfformiadau gwael wedi arwain at ddiffyg o fuddugoliaethau. 

Y peth pwysig i ni nawr yw gwella’r lefel o berfformiadau.  Dyna’r man cychwyn i droi pethau o gwmpas.” 

6 Gêm Diwethaf  

14.10.0:7 Bournemouth 2 – 2 Abertawe 

5.4.08: Abertawe 1 – 2 Bournemouth 

21.11.15: Abertawe 2 – 2 Bournemouth  

12.3.16: Bournemouth 3 – 2 Abertawe 

31.12.16: Abertawe 0 – 3 Bournemouth  

18.3.17: Bournemouth 2 – 0 Abertawe 

 

Ystadegau diddorol 

 

Mae 43% o goliau Callum Wilson i Bournemouth wedi bod yn rhan o hat-trick  - y gymhareb fwyaf fwyaf o unrhyw chwaraewr sydd ag o leiaf 10 gôl yn y gynghrair.  

 

Mae Tammy Abraham wedi cyfrannu tuag at 71% o goliau Abertawe eleni.