Yr Athrylith o Castellón

9th February

Mae gyda fi rywbeth i'w gyfaddef....mae gyda fi hoff chwaraewr newydd. Dwi'n ei garu fe gymaint mae e wedi fy ysbrydoli i i gael enw a rhif ar gefn fy nghrys am y tro cyntaf ers 1998. Yr enw a rhif? Pablo H. 11. Ma' Pablo Hernández yn ddewin, yn athrylith, yn artist a mae e'r math o chwaraewr sy'n gallu gweld pass neu symudiad pan does neb arall yn gallu gneud. 

Yn bersonol dwi'n teimlo taw perfformiad Pablo oedd un o'r elfennau positif yn ystod prynhawn eithaf siomedig yn Upton Park Dydd Sadwrn diwethaf lle wnaeth e greu problemau i Matt Taylor drwy'r gêm. Ar ôl dechrau digon araf i'w fywyd yn yr Uwch Gynghrair fe ffeindiodd Pablo eu draed a dechreuon ni weld pam ei fod e wedi cymryd lle David Silva yn nhîm Valencia ar ôl i Silva symud i Man City. Ar ôl sgorio cwpwl o goliau holl bwysig yn erbyn Wigan a Chelsea cafodd Hernández ei anafu yn erbyn West Brom ac ers dychwelyd i'r tîm dyw e ddim wedi cyrraedd yr un safon ond mae e nawr yn edrych fel bod nôl i'w orau.

Mae Pablo H hefyd yn ymddangos fel un o'r chwaraewyr 'na sy'n rhannu barn gan fod ambell i beth clyfar mae'n ceisio gneud ddim cweit yn gweithio. O ganlyniad i 'ny ma' ambell i berson yn ei ffeindio fe'n rwystredig. Yn bersonol dwi ddim yn deall hyn gan fod gyda ni ddigon o chwaraewyr sy'n neud y pethau syml (Britton, Ki) yn dda iawn felly ma' eisiau ambell i chwaraewr arnon ni sydd yn barod i wneud yr annisgwyl, yn enwedig i agor yr amddiffyn pan fod timau yn eistedd yn ddwfn fel fydd QPR yn siŵr o neud heddi'. Un o broblemau mwyaf Hernández yw nad yw gweddill y tîm wastad ar yr un dudalen ag e, a mae fel petai Pablo'n chwarae'r gêm rhyw 2 neu 3 cam o flaen pawb arall. Sawl gwaith ers iddo ymuno mae e wedi gweld pass clyfar ond does neb wedi gweld y rhediad, neu mae'n neud ei ffordd mewn i boced o wagle rhwng canol y cae a'r amddiffyn a dyw e ddim yn cael y bêl. Ond problem fach yw hon a dwi'n siŵr y bydd e'n cael ei ddatrys wrth i bawb arall ddod yn gyfarwydd â'r ffordd ma'r Sbaenwr yn meddwl ac yn chwarae. Ma' ambell i chwaraewr yn ei ddeall e'n iawn wrth gwrs a mae'r pasio a'r symud rhyngddo fe, Rangel a Michu yn rhagorol ac yn ymddangos yn delepathig ar adegau. 

Chwaraewyr fel Pablo Hernández sy'n gwneud pêl droed yn gyffrous i fi, y math o chwaraewr sy'n cyffroi'r dorf pob tro mae'r bêl wrth ei draed a sy'n ceisio neud pethau anarferol. Mae e'n dod o'r un dras a chwaraewyr fel Ibrahimovic, Iniesta neu Mata a dwi mor falch fod e'n chwarae i'n clwb ni.