Erthyglau Cymraeg

4th December
 
Beth ydach chi gefnogwyr Abertawe yn ei wneud haf nesaf?
Ga'i argymell rhywbeth - taith i Frasil! Mae misoedd yr haf yn gallu bod yn rhai diflas dros ben i gefnogwyr pêl-droed heb unrhyw gemau i'w gwylio.
Ond wrth gwrs mi fydd blwyddyn nesaf yn hollol wahanol gan fod Cwpan Y Byd 2014 yn cael ei chynnal draw ym Mrasil bell.
Dwi'n gwybod na fydd Cymru yn cystadlu yno, ond 'dw i'n eithaf siŵr y bydd yna un neu ddau o chwaraewyr Abertawe yn gwneud y daith bell i Rio De Janeiro.
Mae stori clwb Abertawe dros y ddegawd diwethaf yn un anhygoel.
Trechu Hull City i aros yn gynghrair bêl-droed nôl yn 2003, a mynd ati wedyn i gyrraedd yr Uwch Gynghrair. Penodi un o'r chwaraewyr gorau erioed yn hanes y gêm yn reolwr y clwb, cyn ennill Cwpan Capital One yn gynharach yn y flwyddyn.
Ag o bosib yr haf nesaf mi welwn ni un o chwaraewyr y clwb yn dychwelyd i dde Cymru ar ol ennill Cwpan Y Byd.
Ers iddo arwyddo o Rayo Vallecano am £2 filiwn yr haf diwethaf, mae Michu wedi sefydlu ei hun yn un o sêr yr Uwch Gynghrair.
Mi sgoriodd goliau di-ri y tymor diwethaf, ac mi gafodd ddechreuad da i'r tymor yma hefyd cyn iddo ddioddef anaf.
A gwych oedd ei weld o'n ennill ei gap cyntaf dros Sbaen yn erbyn Belarws fis diwethaf. Mi oedd o'n sicr yn haeddu'r anrhydedd yna.
Y gobaith yn awr ydi y bydd o yng ngharfan Vintente Del Bosque ar gyfer Cwpan Y Byd.
Ac os caiff o ei ddewis, fe allith chwarae rhan allweddol yn eu hymgyrch nhw i ddal eu gafael ar y tlws enwog.
Mae Sbaen wedi bod yn chwarae heb ymosodwr dros y blynyddoedd diwethaf - yn Michu mae ganddyn nhw chwaraewr sy'n gwybod sut mae canfod cefn y rhwyd.
Yn ogystal â Michu, mae'n debyg y bydd Michel Vorm a Jonathan de Guzman yng ngharfan Yr Iseldiroedd ar gyfer y daith i Frasil, ac y bydd Wilfried Bony hefyd yng ngharfan Y Traeth Ifori.
A pwy a wŷr - efallai y bydd Jonjo Shelvey wedi dal llygaid Roy Hodgson, rheolwr Lloegr, erbyn diwedd y tymor. Felly gefnogwyr Abertawe, os nad ydach chi wedi trefnu gwyliau ar gyfer haf nesaf yn barod, ewch ati i chwilio am awyren i Frasil!