Erthyglau Cymraeg - Chelsea

9th April

Mae Abertawe yn ddiogel o'u lle'n Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall. Dwi'n gwybod fod yna 6 gêm o'r tymor ar ôl - ond mae 37 o bwyntiau'n mynd i fod yn ddigon i'w gweld nhw'n osgoi disgyn i'r Bencampwriaeth yn fy marn i.

Tydi hi ddim wedi bod yn dymor da i'r Elyrch. Ar ôl dechrau addawol fe gollodd Garry Monk ei swydd yn dilyn rhediad siomedig o ganlyniadau. Ac ers hynny mae Alan Curtis a Francesco Guidolin mwy neu lai wedi rhannu'r dyletswyddau.

Felly beth nesaf i Abertawe? Dim ond cytundeb tan ddiwedd y tymor sydd gan Guidolin. Mae o'n barod yn cael ei gysylltu efo swydd Yr Eidal ar ôl Ewro 2016 gan y bydd Antonio Conte yn gadael i ymuno a Chelsea.

Dwi'n meddwl fod Yr Eidalwr wedi gwneud swydd dda ers iddo gael ei benodi nôl ym mis Ionawr. Mae nhw'n sicr yn dîm mwy trefnus bellach a dwi'n hoff iawn o'r ymosodwr Alberto Paloschi gafodd ei arwyddo o Chievo. Mae o'n chwaraewr gweithgar sy'n cynnig lot mwy i'r tîm na goliau'n unig.

Dwi'n siwr bod pob un ohonoch wedi gweld adroddiadau papur newydd yn dweud y bydd Brendan Rodgers yn dychwelyd fel rheolwr ar ddiwedd y tymor. Dwi'n siwr y bysa pob cefnogwr yn croesawu Rodgers yn ôl i Stadiwm Liberty.

Yr unig bryder sydd gen i am hyn ydi o bosibl y bysa Rodgers unwaith eto yn codi ei bac mewn ychydig fisoedd tasa 'na glwb mwy am ei benodi. Beth mae Abertawe ei angen ar y funud ydi rheolwr sy'n fodlon aros yno am o leiaf dri tymor. Mae angen ychydig o gysondeb ar ôl tymor lle mae yna dri rheolwr gwahanol wedi bod wrth y llyw.

Dwi am gynnig dau enw arall i chi. Roberto Martinez i ddechrau. Y dyn sy'n cael y clôd am y steil o bêl droed mae Abertawe yn ei chwarae hyd heddiw yn dilyn ei gyfnod wrth y llyw rhwng 2007 a 2009. Mae Everton yn cael tymor siomedig yn y gynghrair ac o bosibl y bydd y perchnogion yn edrych i newid y rheolwr yn ystod yr haf yn dilyn y buddsoddiad ariannol diweddar.

Ac yn ail - Ryan Giggs. Os y bydd Jose Mourinho yn camu mewn i esgidiau Louis Van Gaal efallai y bydd Giggs yn teimlo bod yr amser wedi dod iddo adael Old Trafford.

Amser a ddengys beth fydd dyfodol Guidolin. Ac amser a ddengys â fydd y clwb yn chwilio an reolwr newydd arall yn yr haf.