Erthyglau Cymraeg - Crystal Palace

6th February
 
"Francesco pwy"? Mae'n rhaid i mi gyfaddef mai dyna fy ymateb innau pan glywais i'r newyddion am benodi rheolwr newydd i Abertawe. Dydw i ddim yn dilyn hynt a helynt Serie A yn Yr Eidal felly doeddwn i ddim wedi clywed amdano. Ond am gychwyn mae o wedi ei gael i'w gyfnod wrth y llyw yn Stadiwm Liberty.
 
Mae pawb yn gwybod nad Guidolin oedd dewis cyntaf Huw Jenkins i olynu Garry Monk. Fe aeth y Cadeirydd ar berwyl i Dde America i geisio perswadio Marcelo Bielsa i gymryd yr awennau. Ond gwrthod y cynnig wnaeth Bielsa.
 
Ac er i Jenkins enwi Alan Curtis fel rheolwr tan ddiwedd y tymor wedi iddo ddychwelyd, pan gafodd o wybod fod gan Guidolin ddiddordeb yn y swydd yna dyma benderfynu ei benodi'n syth. Ac ar y funud mae o'n edrych fel petai o'r penderfyniad cywir.
 
Er y siom o ildio gôl hwyr yn West Brom nos Fawrth yn y gêm gyfartal 1-1 mae Guidolin wedi cael dechrau addawol. Doedd Abertawe erioed wedi trechu Everton mewn gêm gynghrair cyn iddyn nhw ymweld â Pharc Goodison bythefnos yn ôl. Mi oedd ymroddiad y chwaraewyr trwy gydol y 90 munud yn arbennig, ac yn y pen-draw mi oedden nhw'n llawn haeddu ennill 2-1.
 
Rydw i hefyd yn meddwl bod Guidolin wedi cryfhau ei garfan yn effeithiol yn ystod y ffenestr drosglwyddo er mai dim ond dau chwaraewr a lwyddodd y clwb i'w harwyddo. Dydi rhai o'r cefnogwyr ddim yn siwr iawn am Leroy Fer - y chwaraewr canol cae sydd wedi ymuno ar fenthyg o QPR. Ond o beth yr ydw i wedi ei weld ohono dros y blynyddoedd mae o'n chwaraewr cryf efo llygaid am gôl. A ddim ar chwarae bach yr ydych chi'n cynrychioli'r Iseldireodd.
 
Mae Alberto Paloschi wedi sgorio goliau i bob clwb mae o wedi chwarae iddyn nhw yn ystod ei yrfa hyd yn hyn. Ar ôl i'r ddau gyd-weithio yn Parma mae Guidolin yn gwybod beth yn union sydd ganddo i'w gynnig.
 
Mi fydd Guidolin yn profi awyrgylch Stadiwm Liberty am y tro cyntaf pnawn ma. Yn dilyn perfformiadau ei dîm yn ystod ei ddwy gêm gyntaf mae o'n siwr o gael croeso cynnes gan y ffyddloniaid heddiw.