Erthyglau Cymraeg - Crystal Palace

2nd March
 
I mi ddweud roedd y perfformiad yn rhesymol yn erbyn Napoli wythnos diwethaf, fyddai'n dweud celwydd.
Ni'n ymwybodol allwn ni wedi bod ar y blaen gan bedwar neu bump gôl ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond yn anfodus dyna reality i chi.
Allai honna wedi bod yn ddefnyddiol ar bapur cyn mynd i'r Eidal i chwarae'r ail gêm dydd Iau nesaf.
Roedd hi'n arddangosiad disglair gan y Swans ar y noson, gyda'r Jack Army yn llifo'n llawn o'r eisteddle. Heb anghofio, roedd hi'n dipyn o hwyl o le o ni'n eistedd, i weld Rafa yn colli ei dymer wrth ymyl y llinell.
Fel cefnogwyr, fyddem ni gyd yn gwerthfawrogi'r gêm gan ystyried fod 'na sawl pwynt positif i gofnodi.
Fel wnes i ddweud yn y rhaglen ddiwethaf, mae Garry Monk wedi cael effaith mawr ar y garfan ers y gêm gyntaf yn erbyn Caerdydd, a mae'n dechrau profi hynny.
O rhan sefyllfa'r clwb, dwi ddim yn gallu meddwl fod 'na unrhyw berson fydd yn addas ar gyfer yr achos. Mae'n amlwg fod 'na rhywbeth wedi effeithio'r hyfforddiant tu ôl i'r llenni yn y gorffennol, ond mae honna wedi'u anghofio amdano nawr. Felly, pwy fyddech chi yn credu bydd y person orau i dynnu pawb yn ôl at ei gilydd?
Yn fy marn i, dwi'n credu does na ddim. Allwn ni gyd cytuno, mae hi'n hynod o ryddhad i weld gwelliant oddi ar cae o rhan y perfformiadau diwethaf, a mae Garry Monk yn haeddu'r canmoliaeth.
Wnaeth llawer o anafiadau achosi dipyn o anhawster i ni o fis Nadolig nes i fyny at ddechrau mis Chwefror, ond gan fod yr unigolion yma yn dychwelyd llawn ffitrwydd, mae'n codi'r awyrgylch o fewn yr ystafell newid. Gellir weld hon yn adlewyrchu oddi ar y cae hefyd.
Gobeithio allwn ni cymryd maintais o'r profiad yn Ewrop eleni i ddangos fod ni'n haeddu aros yn y Uwch Gynghrair am flynyddoedd hir i ddod.
Heddiw ni'n rhoi croeso cynnes i Tony Pulis a'i garfan o Crystal Palace.
Fi'n siŵr fydd hi'n gêm gyffrous, gyda'r ddau dîm yn perfformio'n dda yn ddiweddar.
Os bosib allwn i profi fod Tom Ince wedi gwneud camgymeriad i ymuno'r clwb anghywir?
Pob lwc i'r bechgyn! Dewch ymlaen Wilfried Bony! Peidiwch â fynd yn ysgafn Swans!