Erthyglau Cymraeg - Everton

19th September
 
Am y tro cyntaf y tymor yma - doedd yna ddim golwg o wên ar wyneb Garry Monk ôl y golled yn erbyn Watford ddydd Sadwrn diwethaf.  Mi oedd o'n berfformiad siomedig gan Yr Elyrch ac mi fethon nhw fanteisio ar y ffaith i Watford fynd lawr i ddeg dyn yn yr ail hanner.
 
Ar ôl dechrau gwych i'r tymor - gan gynnwys buddugoliaeth yn erbyn Manchester United a gêm gyfartal yn erbyn y pencampwyr Chelsea - mi oedd Abertawe yn ffefrynnau clir ar gyfer y gêm ar Vicarage Road. A dwi'n siwr fod y daith fws nôl i Dde Cymru o Lundain wedi bod yn un dawel ymysyg y chwaraewyr.
 
Dwi'n siwr felly y bydd perfformiad y penwythnos diwethaf wedi gwneud y garfan yn fwy penderfynol nag arfer i gael canlyniad da yn erbyn Everton heddiw.
 
Mae pawb yn Stadiwm Liberty yn gwybod pwy ydi rheolwr Everton - neb llai na chyn gapten a chyn reolwr Abertawe, Roberto Martinez. Mae gan y cefnogwyr i gyd atgofion melys am ei gyfraniad i'r clwb. Mi oedd o yn y tîm drechodd Hull ar Y Vetch yn 2003 i adfer lle'r Elyrch yn y gynghrair bêl-droed. A fo hefyd oedd y rheolwr pan enillon nhw ddyrchafiad o'r adran gyntaf i'r Bencampwriaeth.
 
Mi oedd y cefnogwyr yn siomedig i'w weld yn gadael i ymuno â Wigan yn 2009. Ond gan fod Wigan yn glwb Uwch Gynghrair ar y pryd mi oedd Martinez yn teimlo ei fod o'n gyfle rhy dda i'w wrthod. "Cymysg" dwi'n meddwl ydi'r gair gorau i ddisgrifio ei gyfnod yno. Fe enillon nhw Gwpan FA Lloegr o dan ei arweinyddiaeth, ond yn anffodus fe ddisgynnon nhw'n ôl i'r Bencampwriaeth.
 
Dydi hi ddim yn syndod gweld Abertawe ac Everton yn chwarae'r un math o bêl-droed. Cadw'r bêl ar y llawr. Digon o symud a digon o basio. Martinez ddechreuodd yr holl beth yn Abertawe. A dros y blynyddoedd mae rheolwyr eraill wedi parhau efo'r steil yna o chwarae.
 
Mi fydd Everton yn llawn hyder ym ymweld â'r Liberty yn dilyn canlyniad gwych ddydd Sadwrn diwethaf yn trechu Chelsea 3-1 ar Barc Goodison. Mae gan Y Toffees garfan gref y tymor yma, ac fe wnaethon nhw'n wych i gadw John Stones allan o grafangau Chelsea.
 
Yn fy marn i mi fydd dau o amddiffynnwyr canol gorau Uwch Gynghrair Lloegr yn wynebu ei gilydd heddiw - sef Stones ac Ashley Williams. Mi oedd Williams yn gawr yn amddiffyn Cymru yn y gemau rhagbrofol diweddar yn erbyn Cyprus ac Israel. Mi fydd tynged y gêm heddiw yn dibynnu lot ar berfformiadau'r ddau yna.