Erthyglau Cymraeg - Everton

22nd December
 
'O Wembley I Wembley : Straeon Sylwebydd'.
Dyna deitl llyfr gen i gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn ddiweddar (£9.99).
Yn y llyfr rydw i'n sôn am un deg saith o'r gemau mwyaf cofiadwy rydw i wedi'u gwylio ers imi ddechrau mynd i feysydd pêl-droed yn rheolaidd i weithio fel sylwebydd neu ohebydd ar ran BBC Radio Cymru a Radio Wales yn nhymor 1992-93.
Mae chwech o gemau Abertawe ymhlith yr un deg saith 'na ac un ohonyn nhw yw'r fuddugoliaeth ddramatig o 4-2 dros Hull ym mis Mai 2003 ddiogelodd le'r Elyrch yn Y Gynghrair.
Dyma baragraff cyntaf f'atgofion am y gêm honno:" Unwaith yn unig rydw i wedi teimlo fy stumog yn troi tra oeddwn yn sylwebu ar gêm.
"Mae dros ddegawd ers iddo ddigwydd, ond rydw i'n cofio'n iawn pa mor annifyr oedd y teimlad ges i'n syth ar ôl i Hull fynd ar y blaen o ddwy gôl i un yn erbyn Abertawe yn yr hanner cyntaf ar gae'r Vetch.
"O edrych yn ôl, efallai nad oedd syndod i 'nghorff ymateb felly.  Am bron i bum mlynedd cyn y gêm hon, fi oedd gohebydd cyswllt Abertawe yn Adran Chwaraeon BBC Cymru, ac roedd hon yn gêm hollol dyngedfennol.
"Roedd yn rhaid i'r Elyrch ei hennill er mwyn osgoi syrthio o'r Gynghrair am y tro cyntaf ers iddyn nhw ymuno â hi yn 1920 "
Roedd rheolwr ymwelwyr heddiw Everton a chyn-reolwr Abertawe Roberto Martinez yn allweddol wrth i'r Elyrch ddod yn ôl i ennill yn erbyn Hull. O gic rydd gan Martinez y sgoriodd Lenny Johnrose y gôl wnaeth hi'n 3-2. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.