Erthyglau Cymraeg - Hull City

4th April

Gwthio i'r Llinell Derfyn

Gyda rhyw wyth gem ar ôl y tymor hwn, mae'r diwedd yn dechrau agosau. Cyn bod ni'n gwybod mi fyddai'r negeseuon yn hedfan o gwmpas amdano chwaraewyr, ond mae'n bwysig fod yr Elyrch yn parhau i ganolbwyntio.

Felly, ni'n gobeithio byddent yn dathlu'r tymor fwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, a hefyd Garry Monk yn profi'r wasg yn anghywir unwaith eto.

Dwi'n siŵr mi fyddai nifer o bobl yn yr eisteddle yn teimlo'n siomedig wrth i Jordan Henderson dwyn y fuddugoliaeth mewn ffordd anarferol, i Lerpwl yng nghanol mis diwethaf yn Stadiwm y Liberty.

Wnaeth Lerpwl dangos llawer o rwystredigaeth trwy gydol yr holl gêm wrth i'r Elyrch cynnal y meddiant ar sawl cyfnod.

Felly, adlewyrchiad amlwg fod y gwaith paratoi a'r astudiaeth gan Garry Monk yn rhywbeth i ni edmygu, yn enwedig wrth iddo wynebu eu hen ffrind, Mr Rodgers.

Mae'n gallu fod yn bilsen anodd i lyncu tro ar ôl tro pryd mae profiadau fel hyn yn codi, ond wnaeth yr Elyrch dangos trefn a safon llawer well na Lerpwl ar y noson, o flaen y camerâu Sky Sports. Yn sicr roedd 'na nifer o bwyntiau positif i nodi yn barod ar gyfer y dasg nesaf.

Dim ond llond llaw o dymhorau yn ôl roedd pawb yn codi sylw amdano drafferthion yr Elyrch oddi gartref. Wnaeth canlyniadau i fwrdd fynd yn erbyn y tîm, ac felly yn cael effaith mawr ar y dasg i wthio ymlaen tua phen y gynghrair.

Nawr yn rhywbeth o'r gorffennol, wnaeth yr Elyrch dangos sut ni wedi datblygu fel carfan, wrth i ni ddangos brwdfrydedd arbennig yn erbyn Aston Villa i ffwrdd yn Barc Villa.

Gyda'r awyrgylch yn isel o amgylch y garfan ar ôl colli yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm y Liberty, roedd hwn yn ymateb gwych, a ni ellir wedi gofyn am unrhyw ymdrech ychwanegol.

Wnaeth y ddau dîm cael nifer o gyfleodd yn ystod y holl gêm, yn enwedig yr Elyrch wrth i Routledge cael y cyfle orau i roi'r tîm oddi gartref ar y blaen.

Ond fel gallwn ni ddim sôn amdano Gomis? Yn unigolyn sydd wedi dod dan bwysau nifer o bobl yn fyd yr Uwch Gynghrair, ac felly wedi dangos eu gwerth gan gadarnhau eu gwerth gan gasglu'r try phwynt i'r Elyrch.

Wnaeth eu dathliad a'r ymddangosiad gan y chwaraewyr eraill ddangos fod pawb yn gefnogol gyda'i gilydd.

Yn elfen allweddol ar gyfer llwyddiant Gomis eu hunain, a hefyd ar gyfer Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe. Gadewch i ni adael hwn i barhau.