Erthyglau Cymraeg - Liverpool

14th March

Mae sylwebaeth fyw o bob gêm Abertawe yn Uwch Gynghrair Loegr  ar BBC Radio Cymru

Mae Garry Monk wedi bod wrth y llyw yn Stadiwm Liberty ers ychydig dros flwyddyn bellach, a does gen i ddim byd ond canmoliaeth iddo am y gwaith mae o wedi ei wneud yn ystod y cyfnod yna.

Er bod yna 10 gêm o'r tymor ar ôl mae Abertawe'n barod wedi cyrraedd y 40 pwynt hudolus sy'n golygu eu bod nhw'n barod fwy neu lai yn saff o'u lle yn Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer y tymor nesaf. Mae'n bwysig cofio mai hon yw swydd gyntaf Monk fel rheolwr, ond mae o'n edrych fel ei fod o wedi bod wrthi ers blynyddoedd.

Yn dilyn ymadawiad Michael Laudrup mis Chwefror diwethaf mi oedd Yr Elyrch mewn dyfroedd dyfnion yn Uwch Gynghrair Lloegr. Dim ond dau bwynt oedd rhyngddyn nhw a'r tri safle isaf ac mi oedden nhw'n cael eu llusgo mewn i frwydr i aros yn y gynghrair. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi fy synnu ar y pryd fod y cadeirydd Huw Jenkins wedi penderfynu penodi Monk tan ddiwedd y tymor. Mi oeddwn i wedi disgwyl iddo benodi rhywun mwy profiadol. Ond gan fod Monk wedi bod yn y clwb ers 2004 yn amlwg mi oedd Jenkins yn y cyfnod yna  wedi gweld fod ganddo'r rhinweddau cywir i fod yn rheolwr ar y clwb ryw ddydd.

Mi oedd hi'n hollol amlwg o'r eiliad y cafodd ei benodi fod y chwaraewyr i gyd yn mwynhau gweithio efo fo a'u bod nhw i gyd yn ei barchu. Mi oedd o wedi bod yn gapten ar y clwb ers 2006 felly'n amlwg mi oedd hynny'n gweithio o'i blaid. "Monks" oedd ei lysenw o fewn yr ystafell newid fel chwaraewr. Ond dwi'n cofio Leon Britton yn dweud wrtha i ychydig wythnos ar ôl iddo gael ei benodi eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i'w stopio ei alw'n hynny. Yn hytrach mi oedden nhw'n gorfod cyfeirio ato fel "gaffer".

Mi oedd haf diwethaf yn haf prysur iddo. Mi gafodd o wared â sawl chwaraewr - gan gynnwys Pablo Hernandez, Chico Flores, Jose Canas a Michael Vorm - chwaraewyr oedd wedi chwarae rhan flaenllaw yn ystod teyrnasiad Laudrup. Ond yn amlwg doedden nhw ddim yn gweddu i steil Monk o weithio. Fe aeth o ati i arwyddo chwaraewyr newydd ei hun - Federico Fernandez, Lukasz Fabianski, Jefferson Montero a Bafetimbi Gomis. Ac yn fwy diweddar Kyle Naughton a Jack Cork. Ac i fod yn deg mae pob un ohonynt wedi bod yn llwyddiant (Gomis o bosibl angen sgorio mwy o goliau).

Dim ond gwella fel rheolwr mae Monk am ei wneud efo profiad. Pwy a ŵyr am ba mor hi y bydd o wrth y llyw yn Abertawe? Mi oedd o'n agos iawn at Brendan Rodgers pan oedd Rodgers yn rheolwr yma. A dwi'n siŵr fod rheolwr Lerpwl wrth ei fodd yn gweld ei gyn gapten yn gwneud cystal y dyddiau yma. Tydi'r disgybl erioed wedi trechu'r meistr fel rheolwr. Tybed os mai heno fydd y noson pan fydd hynny'n newid?