Erthyglau Cymraeg - Manchester City

16th May
 
Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod llawn canmoliaeth, felly sut allwn ni ddweud unrhyw beth wahanol amdano'r llwyddiant y tymor hwn.
Mae Garry Monk wedi arwain Dinas Abertawe i'w cyfanswm uchaf o bwyntiau yn yr Uwch Gynghrair, yn eu tymor llawn cyntaf fel hyfforddwr.
Wrth i sylwadau gan hyfforddwyr eraill fel Arsene Wenger yn codi sylw amdano'r cyn-chwaraewr Abertawe, mae'n neud i chi feddwl sut mae e wedi ymdopi gyda'r dasg ac wedi cymryd mantais ohoni.
Er bod hyfforddwyr enwog fel Jose Mourinho wedi arwain Chelsea i ennill y teitl unwaith eto y tymor hwn, does dim hawl i chi groesi allan siawns Garry Monk o gymryd y goron am Hyfforddwr y Tymor.
Gan gyfeirio nôl i'r sylwadau gan y wasg ym mis Awst, mae hwn wedi codi ymwybyddiaeth o lwyddiant Garry Monk ym mhellach byth.
Mae'n gywir i ddweud fod yr Elyrch yn dilyn y llwybr yn y cyfeiriad cywir, ac mae hwn i gyd lawr i berthynas gryf rhwng y garfan, yr academi, staffio, sydd wedi'u gadarnhau gan asgwrn cefn y pwyllgor.
Wrth i bawb poeni amdano sefyllfa ein hyfforddwr nol ym mis Chwefror tymor diwethaf wrth i Michael Laudrup gael eu rhyddhau o'i swydd, roedd penodiad yr hyfforddwr newydd yn dipyn o ben tost i'r cefnogwyr.
Yn clwb sydd wedi wynebu'r sefyllfa yma digon o weithiau yn y gorffennol,  o ni'n ddigon hyderus fod Huw Jenkins a weddill y pwyllgor yn mynd i neud y penderfyniad cywir gan ystyried diddordeb y clwb.
O dan amgylchedd yr ystafelloedd newid ar y pryd, y peth orau yn fy marn i oedd penodi rhywun sydd yn adnabod pob cornel y clwb er mwyn dod a phawb nol i'r ddaear.
Nawr roedd hi'n hynod o allweddol fod gyd y chwaraewyr yn cael eu hatgoffa amdano pwy yn union maen nhw'n cynrychioli a beth mae pob un ohonynt yn golygu i'r ddinas.
A sut allwn ni anghofio, y gêm gyntaf wnaeth y tîm wynebu o dan hyfforddiant Garry Monk oedd Dinas Caerdydd, gyda buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn Stadiwm y Liberty? Yn trobwynt i'r clwb ar y noson, wnaeth hwn osod sylfaen i ddyfodol Garry Monk, ac mae'r proffeil wedi parhau i  ddatblygu ym mhellach hyd at y dydd y heddiw.
Pwy fydd wedi dweud ar ddechrau'r tymor, bydd Garry Monk yn arwain y garfan i guro Manceinion Unedig a Arsenal dwywaith, dim ond y trydydd tim yn hanes yr Uwch Gynghrair i gwneud hwn.
Heb anghofio hefyd, yn torri'r record ar gyfer y fwyaf o bwyntiau yn hanes yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn?
Gyda Dinas Manceinion o'm flaenau heddiw, gobeithio allai ni ychwanegu buddugoliaeth ddisglair unwaith eto i dymor hynod o lwyddiannus a gwthio ymlaen i'r chwiban olaf. Swper Garry Monk!