Erthyglau Cymraeg - Manchester United

30th August
 
Fel cefnogwyr dwi'n gwybod bod gennych atgofion hynod o felys o chwarae'n erbyn Manchester United y tymor diwethaf. Ennill 2-1 ar benwythnos agoriadol y tymor yn Old Trafford cyn eu trechu nhw unwaith eto o'r un sgôr yn Stadiwm Liberty ym mis Chwefror. Does yna ddim llawer o dîmau yn llwyddo i drechu United ddwy waith mewn tymor. Mi oedd hi'n dipyn o gamp.
 
Eisoes y tymor yma mae'r Elyrch wedi profi eu bod nhw'n ddigon da i gystadlu efo goreuon y gynghrair. Doedd hi byth yn mynd i fod yn hawdd teithio i Stamford Bridge i wynebu'r pencampwyr Chelsea ar y penwythnos agoriadol, ond yn y diwedd mi oedd tîm Garry Monk yn hynod o anffodus i beidio â gadael Llundain efo'r tri phwynt ar ôl gêm gyfartal 2-2.
 
Ar ôl buddugoliaeth gyfforddus ar Y Liberty yn erbyn Newcastle, taith bell i Sunderland oedd yn eu wynebu nhw'r penwythnos diwethaf. Ac mi oedd ymateb y chwaraewyr ar ôl y gêm gyfartal 1-1 yn adrodd cyfrolau. Pob un yn siomedig na lwyddon nhw i sicrhau'r tri phwynt. Pob un hefyd yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ennill gemau fel hyn os ydyn nhw am orffen yn uwch na'r 8fed safle y tymor yma.
 
Yn syml - dyna'r her i'r chwaraewyr. Gwneud yn well na'r tymor diwethaf. Gorffen o fewn y 7 safle uchaf yn y gynghrair a chael rhediad da yn un o'r cwpanau. Mae o'n gofyn lot gan gofio'r arian mawr mae rhai clybiau yn y gynghrair yn gallu ei wario ar chwaraewyr newydd. Ond does yna ddim rheswm o gwbl pam na fedran nhw orffen yn uwch nag 8fed. Mae ganddyn nhw reolwr gwych sydd wedi cryfhau'r garfan efo chwaraewyr o safon dros yr haf. Ond yn bwysiach na hynny maen nhw (hyd yn hyn) wedi llwyddo i ddal eu gafael ar chwaraewyr pwysig fel Ashley Williams, Bafetimbi Gomis a Jefferson Montero er bod y tri ohonyn nhw wedi cael eu cysylltu â chlybiau eraill.
 
Un o'r chwaraewyr y llwyddodd Monk i'w ddenu i Dde Cymru dros yr haf oedd Andre Ayew. Ac mae o wedi cael dechrau hynod o addawol i'w yrfa efo'r clwb. Dwy gôl yn ei dair gêm gyntaf, ac mi oedd o'n hynod o anlwcus i beidio â sgorio yn erbyn Sunderland ddydd Sadwrn diwethaf pan darrodd ei beniad yn erbyn y postyn. Mae o'n chwaraewr cyffrous sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r tîm. Ac os y bydd o'n aros yn holliach drwy gydol y tymor mae unrhyw beth yn bosibl i Abertawe.