Erthyglau Cymraeg - Manchester United

21st February

Gwthio'n Galed...

Os dwedodd rhywun wrthych chi fod Yr Elyrch yn mynd i eistedd yn y 9fed safle ar amser hyn y flwyddyn, fyddwch chi yn eu credu? Gyda chwpwl o berfformiadau wedi bod yn siomedig eleni, ellir wedi bod yn agosach i sicrhau taith yn Ewrop y tymor nesaf. Ond, mae honna'n edrych yn annhebygol nawr.

Yn ymgyrch llwyddiannus hyd yn hyn, mae'r garfan yn dangos nifer o opsiynau i Garry Monk, felly yn fantais yn sicr. Dwi'n siŵr mi fydd nifer o gefnogwyr yn falch i weld Gylfi Sigurdsson yn dychwelyd nôl heddiw.

Yn amlwg iawn mae eu presenoldeb ar y cae yn cael argraff ar weddill y tîm, heb anghofio nid yw'n syniad da i ddibynnu ar yr un chwaraewr a ddylai fod pob unigolyn yn cyfrannu at yr achos gydag amrywiaeth o wahanol rinweddau.

Heddiw ni'n croesawi Manceinion Unedig i Stadiwm y Liberty. Tro diwethaf wnaethom ni wynebu Unedig oedd i fwrdd yn Old Trafford yn gêm gyntaf y tymor, lle roedd yr Elyrch yn fuddugol ar y dydd ac yn achosi llawer o broblemau i'r tîm gartref.

Yn fuddugoliaeth enwog, cymerodd yr Elyrch y blaen yn yr hanner cyntaf trwy Ki Sung-Yueng, ac er bod newidiadau tactegol gan Van Gaal hanner amser, welwyd gwelliant gyda Wayne Rooney yn cydraddoli Unedig ar ddechrau'r ail hanner. Wnaeth yr Elyrch hecsbloetio'r diffyg awdurdod wrth galon Unedig gydag ail gôl gan Gylfi Sigurdsson, a 18 munud yn weddill. A byddem wrth ein bodd yn gweld hyn yn digwydd unwaith eto.

Gyda Unedig yn agored i niwed y tymor yma, mi fydd yr Elyrch yn edrych am ddim byd arall ar wahân i dri phwynt y prynhawn yma.

Nid oes unrhyw reswm pam ni fydd Garry Monk yn edrych am unrhyw beth wahanol. Ond hefyd ar y llaw arall, mi fyddai'n siŵr o fod yn gêm ddiddorol gyda llawer o chwaraewyr yn debygol o achosi syndod ar unrhyw adeg. A fydd yr Elyrch yn gallu profi fod nhw'n gallu symud ymlaen yn gryf gydag absenoldeb Wilfried Bony?

Gyda'r ychwanegiadau newydd i'r garfan fel Kyle Naughton a Jack Cork yn ystod y ffenest trosglwyddo, mae'n dangos i mi fod garfan yr Elyrch yn cymryd y cyfeiriad cywir ac yn edrych i gynnal presenoldeb yn yr uwch gynghrair am amser hir.