Erthyglau Cymraeg - Sunderland

19th October
 
Yn ôl y ddihareb, mae gofyn bod yn wyliadwrus o anifail sydd wedi clwyfo.
Does dim dwywaith bod Sunderland yn brifo ar hyn o bryd, a teg dweud bod y Black Cats wedi cychwyn y tymor yn ddychrynllyd.
Mi fydd yr ymwelywr yn cyrraedd Stadiwm Liberty heddiw ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr gyda phwynt yn unig o'u saith gêm gyntaf.
Mae bron i deufis wedi mynd heibio ers ennill y pwynt hwnnw pan gafwyd gêm gyfartal oddi cartref yn Southampton.
Mae amser yn rhinwedd prin i reolwyr y dyddiau hyn ac roedd amynedd Sunderland gyda Paolo di Canio wedi brysur ddiflannu.
Go brin bod 12 gêm yn gyfnod teg i farnu gwaith rheolwr, ond nid amgylchiadau cyffredin oedd ar waith yn y Stadium of Light.
Roedd penodiad Di Canio ar ddiwedd y tymor diwethaf yn ddadleuol o'r cychwyn oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol eithafol. 'Doedd hi ddim yn hir cyn i'w ddulliau ar y maes ymarfer godi gwrychyn y chwaraewyr. 'Doedd y feirniadaeth "ciaidd a miniog" yn sicr ddim at ddant bawb chwaith.
Ac yn y pendraw, y gwrthryfela yn erbyn Di Canio ymysg y chwaraewyr arweiniodd at yr Eidalwr yn colli ei swydd. Yn ei le, mae Sunderland wedi troi at reolwr fyddai'n gallu bod yn eistedd yn y "dugout" cartref heddiw yn ddigon hawdd.
Nid unwaith, ond tair gwaith mae Gus Poyet wedi cael ei ystyried fel rheolwr posib i Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf.
Pan adawodd Roberto Martinez am Wigan yn 2009, Poyet oedd ffefryn y bwcis i gymryd drosodd. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd enw cyn chwaraewr Chelsea a Tottenham Hotspur ar frig y rhestr unwaith eto wrth i Paulo Sousa gael ei demtio i Gaerlŷr.
A rhyw gwta bedwar mis yn ôl, wrth i gwestiynau godi ynglyn â dyfodol Michael Laudrup yn dilyn ffrae rhwng ei asiant a'r y clwb, Poyet oedd un o'r enwau yn y ffram unwaith eto.
Dull o chwarae Poyet sy'n golygu ei fod wedi cael ei gysylltu ag Abertawe. Amser a ddengys os gallith Sunderland fabwysiadu'r arddull hynny o chwarae'r bêl i draed ym mhob ran o'r cae gyda'r pwysau o fod ar waelod y tabl ar eu ysgwyddau.
Ond tydi Abertawe ddim yn chwarae heb bwysau chwaith. Mae record gartref yr Elyrch yn y gynghrair yn destyn pryder.
Mis Mawrth oedd y tro diwethaf i selogion y Liberty ddathlu buddugoliaeth gartef - rhediad o wyth gêm heb ennill.
Ac yn anffodus i Laudrup a'i griw, mae sawl enghraifft o glybiau ar y gwaelodion yn codi eu gêm yn syth ar ôl penodi rheolwr newydd. Does ond gobeithio nad oes min ar ewinedd y Cathod clywfus yma heddiw.