Erthyglau Cymraeg - Watford
19th January
Mae'n anodd gwybod sut mae crynhoi sylwadau am Jonjo Shelvey fel chwaraewr mewn un frawddeg, ond dyma roi cynnig arni. Talent arbennig sydd yn dal heb wireddu ei wir botensial.
Does yna ddim amheuaeth amdani nad ydi Shelvey yn chwaraewr hynod o dalentog. Fe ymunodd o â'r Elyrch o Lerpwl am 5 miliwn o bunnoedd nôl yn 2013 ar ôl mynd i deimlo'n rhwystredig yn Anfield am nad oedd o'n cael digon o gyfleoedd yn y tîm cyntaf.
Yn ei dymor cyntaf efo'r clwb fe chwaraeodd o ymhob un o'u gemau yng Nghynghrair Ewropa cyn iddyn nhw golli'n erbyn Napoli yn rownd y 32 olaf. A'r tymor diwethaf roedd yn rhan bwysig o'r tîm a orffennodd yn yr 8fed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Er hynny dydw i ddim yn meddwl bod cefnogwyr Abertawe wedi gweld y gorau ohono'n ystod y ddau dymor a hanner diwethaf. Mae o wedi sgorio rhai goliau cofiadwy - mae'r un oddi cartref yn Lerpwl yn 2014 ac oddi cartref yn Southampton llynedd yn aros yn y cof. Ond y gwir amdani ydi nad ydi o ddim wedi gwneud hyn yn ddigon aml yng nghrys Abertawe.
Dydi o'n sicr ddim wedi bod ar ei orau y tymor yma a dim ond tair gêm gynghrair mae o wedi eu dechrau ers diwedd mis Medi. Dwi'n cofio un cefnogwr yn dweud wrtha i rai wythnosau'n ôl ei fod yn brofiad "rhwystredig" gwylio Shelvey yn chwarae am y rheswm ei fod yn gwneud gormod o gamgymeriadau ac yn ildio'r meddiant yn rhy aml.
Fe ellir yn hawdd iawn gofyn prun ydi ei safle gorau ar y cae. Mae o'n gallu angori canol y cae neu chwarae y tu ôl i'r prif ymosodwr. Dwi'n meddwl bod yn well ganddo chwarae y tu ôl i'r blaenwr, ond dim ond 10 gôl a sgoriodd o yn ei gyfnod ar Y Liberty a dydi hynny yn fy marn i ddim yn ddigon i gyfiawnhau ei chwarae fel "ail flaenwr".
Mae yna frwydr yn wynebu Abertawe i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma ac yn amlwg mae Alan Curtis yn teimlo y gallen nhw oroesi heb Shelvey.
Mae rhai'n meddwl bod Yr Elyrch wedi gwneud camgymeriad yn ei werthu i glwb arall sydd hefyd yn bwrydro i aros yn y gynghrair, ond yn bersonol dwi'n meddwl bod 12 miliwn o bunnoedd yn gynnig rhy dda i'w wrthod, yn enwedig os y caiff Curtis yr arian yna i fuddsoddi yn y garfan ac i brynu ymosodwr newydd.