Erthyglau Cymraeg - West Brom

26th December
 
Ar ôl sylwebu ar y gêm ddi-sgôr yn erbyn West Ham ar BBC Radio Cymru holais i Leon Britton fel rydw i wedi gwneud nifer fawr o weithiau yn ystod ei gyfnod hir gydag Abertawe.
Yn ôl yr arfer mynegodd Britton ei farn yn glir ac yn gall ac fe wnaeth o hynny wrth siarad am sefyllfa anarferol ers i'r Elyrch godi i Uwch Gynghrair Lloegr - sef y ffaith fod y tîm yn nhri safle isaf y Gynghrair.
Dydyn nhw ddim wedi bod yn y tri isaf yn y brif adran ers i dîm Michael Laudrup lithro i waelod y tabl ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf yn nhymor 2013-14.
Wrth drafod y sefyllfa ar hyn o bryd mynnodd Britton fod yn rhaid iddo fo a'i gyd-chwaraewyr beidio â phoeni gormod am eu safle yn y tabl. Dywedodd o pa mor bwysig yw 'dal i gredu' ac fe bwysleisiodd o'r elfennau calonnogol ynglŷn a'r perfformiad yn erbyn yr 'Hammers'.
Os gwnawn ni barhau i berfformio fel hyn gwnaiff y canlyniadau wella meddai'r chwaraewr bychan sy'n parhau i wneud argraff fawr yng nghanol y cae dair blynedd ar ddeg ar ôl ei gêm gyntaf i'r Elyrch - ar fenthyg o West Ham.
Sylwebais i ar y gêm honno - colled o 1-0 yng Nghaerwysg (Exeter) yn yr hen Drydedd Adran - ar 14 Rhagfyr 2002.
Mae byd Britton ac Abertawe wedi newid ers hynny wrth gwrs ond rhywbeth sydd ddim wedi newid yw'r angen am bwyntiau dros gyfnod prysur Y Nadolig. Gêm heddiw fydd y gyntaf o dair mewn wythnos i'r Elyrch cyn dwy daith i wynebu Crystal Palace a Manchester United.
O ran West Brom mae Abertawe wedi ennill tair o'u pedair gêm gartref yn eu herbyn nhw yn Yr Uwch Gynghrair ac roedd Britton yn nhîm Brendan Rodgers yn y gyntaf o'r gêmau hynny ar 17 Medi 2011.
Curodd Abertawe West Brom 3-0 i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Y Gynghrair ar ôl iddyn nhw sgorio eu goliau cyntaf yn y brif adran.
Buasai canlyniad cystal y prynhawn yma yn hwb anferth a gallai tri phwynt fod yn drobwynt.