Erthyglau Cymraeg - Bournemouth

23rd November
 
Maen nhw'n glwb sydd wedi synnu'r byd pêl-droed trwy godi i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl dod yn agos at fynd i'r wal a dod yn agos at syrthio o Gynghrair Lloegr ers 2000.  Nid cyfeirio at Abertawe ydw i ond at Bournemouth, ac mae'r ffeithiau yn y frawddeg gynta 'na yn dangos pa mor debyg ydy hanes diweddar y ddau glwb.
 
Fel Abertawe cafodd Bournemouth drafferthion ariannol difrifol ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon; a fel y clwb o Dde Cymru bu bron i'r clwb o Dde Lloegr golli'u lle yn Yr Ail Adran. Chwe blynedd ar ôl i'r Elyrch ennill eu gêm olaf yn nhymor 2002-2003 yn erbyn Hull ar Y Vetch i ddiogelu'u lle yn Y Gynghrair gwnaeth Bournemouth yr un peth trwy guro Grimsby gartref yn eu gêm olaf ond un yn nhymor 2008-09. 
 
Dim ond chwe blynedd yn ddiweddarach maen nhw fel Abertawe yn y brif adran gyda rheolwr ifanc - dydy Eddie Howe ond ychydig mwy na blwyddyn yn hŷn na Garry Monk; a dyma ichi debygrwydd arall : fel tîm Monk mae tîm Howe wedi llithro yn y tabl ar ôl dechrau'r tymor mewn modd addawol. Gwnaethon nhw ennill dwy o'u chwe gêm Gynghrair gyntaf, ond un pwynt yn unig mewn chwe gêm ydy eu record nhw yn ystod y deufis diwetha. Mae hi'n deg nodi eu bod nhw wedi chwarae yn erbyn Manchester City a Tottenham yn y cyfnod yna a hefyd eu bod nhw heb eu hymosodwr Callum Wilson. Sgoriodd Wilson bum gôl mewn chwe gêm Gynghrair cyn cael anaf cas i'w benglin felly roedd hynny'n anlwc i Bournemouth.
 
Does gan Abertawe ddim esgus debyg am eu rhediad gwael nhw o ganlyniadau, ac ar ôl y perfformiad difflach yn Norwich bythefnos yn ôl mae hi'n hynod o bwysig o safbwynt Monk fod ei chwaraewyr o'n ennill y prynhawn 'ma. Bydd rheolwr Yr Elyrch wrth ei fodd os bydd y canlyniad cystal â'r canlyniad yma yn Stadiwm Liberty nos Wener 3 Chwefror 2006. Ar y noson honno enillodd Abertawe - gyda Monk yn eu tîm - 1-0 yn erbyn Bournemouth - oedd â Howe yn eu tîm - mewn gêm yn Yr Adran Gyntaf.