Abertawe yn dangos cryfder mewn amddiffyniad

29th November

Heb os ac oni bai mae'r ddwy gêm ddiwethaf wedi profi bod Abertawe bellach yn gallu cystadlu efo timau gorau Uwch Gynghrair Lloegr - ennill 2-1 gartref yn erbyn Arsenal a cholli o drwch blewyn oddi cartref 2-1 yn erbyn y pencampwyr Manchester City.
Mi oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Arsenal yn fwy arbennig gan gofio faint o chwaraewyr oedd ddim ar gael i Garry Monk, sef Nathan Dyer, Wayne Routledge, Jonjo Shelvey, Federico Fernandez a Jordi Amat. Mae'r pum chwaraewr yna wedi chwarae rhan flaenllaw yn nhymor Yr Elyrch. Ond mi brofodd y gêm yn erbyn Y Gunners fod yna ddyfnder yng ngharfan Abertawe bellach.
'Dw i wedi defnyddio'r golofn hon i ganmol Jefferson Montero yn y gorffennol. Ac er mai fo oedd seren y gêm yn erbyn tîm Arsene Wenger 'dw i wedi penderfynu canolbwyntio ar chwaraewr arall y tro yma. Tydi'r amddiffynnwr canol Kyle Bartley ddim wedi cael llawer o gyfle i greu argraff ers iddo ymuno o Arsenal nôl yn 2012. Dim ond pum gêm y chwaraeodd o yn ei dymor cyntaf cyn treulio y rhan fwyaf o'r tymor diwethaf ar fenthyg efo Birmingham yn Y Bencampwriaeth.
Y gemau yn erbyn Arsenal a Manchester City oedd y tro cyntaf i Bartley ddechrau dwy gêm gynghrair yn olynol ers iddo gyrraedd Stadiwm Liberty. Doedd hi ddim yn benderfyniad hawdd iddo adael Arsenal ar ôl treulio pum mlynedd yn Stadiwm Emirates. Mi oedd o'n gapten ar yr ail dîm ac mae o wedi chwarae i dimau o dan 16 ac 17 Lloegr. Mae'n bwysig cofio mai dim ond 23 mlwydd oed ydi o, sy'n golygu fod blynyddoedd gorau ei yrfa o'i flaen.
Mae yna benderfyniad anodd yn wynebu Garry Monk pan fydd Federico Fernandez yn holliach eto. Yn amlwg mae Fernandez wedi cael ei arwyddo i fod yn bartner i Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn. 'Dw i'n disgwyl i Bartley gadw ei le yn y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Crystal Palace heddiw. A phe bai Bartley yn parhau i berfformio fel y gwnaeth o yn erbyn Man City ac Arsenal, yna efallai y bydd yn rhaid i Fernandez ddechrau gorfod bodlonni ar le ar y fainc.
Mi fydd Crystal Palace wedi teithio i dde Cymru'n llawn hyder ar ôl buddugoliaeth wych yn erbyn Lerpwl y penwythnos diwethaf. Mi oedd sawl un o'r farn bydda Palace yn ei gweld hi'n anodd y tymor yma ar ôl i'r Cymro Tony Pulis hel ei bac. Ond mae'n rhaid rhoi clod i Neil Warnock am y gwaith mae o wedi ei wneud hyd yn hyn. Maen nhw'n chwarae pêl-droed ymosodol ac maen nhw'n dîm hawdd iawn i'w gwylio. Ac yn Yannick Bolasie mae ganddyn nhw un o'r asgellwyr mwyaf cyffrous yn Uwch Gynghrair Lloegr. Mae cefnwr de Lerpwl Javi Manquillo dal yn cael hunllefau ar ôl y gêm ar Barc Selhurst ddydd Sul diwethaf. Mae yna brynhawn prysur yn wynebu Angel Rangel heddiw.
Mae Abertawe wedi cael dechrau gwych i'r tymor. Os ydyn nhw'n gobeithio gorffen o fewn yr wyth safle uchaf ar ddiwedd y tymor yna dyma'r math o gemau mae'n rhaid iddyn nhw eu hennill. Mae'n bwysig bod Garry Monk yn mynnu wrth eu chwaraewyr eu bod nhw'n sicrhau'r tri phwynt heddiw. Ac os fedran nhw gadw Bolasie yn dawel yna fe ddylai hynny fod o fewn cyrraedd.