ERTHYGLAU CYMRAEG - LIVERPOOL

21st January

Mae yna gysylltiadau di-ri rhwng Abertawe a Lerpwl. Dyma rai o’r chwaraewyr a’r rheolwyr sydd wedi treulio amser efo’r ddau glwb dros y blynyddoedd.

Joe Allen — fe adawodd o’r Liberty i ymuno â’r cochion yn 2012 am £15m. Mae pawb yng Nghymru yn gwybod ei fod o’n chwaraewr gwych ac fe brofodd o hynny efo’i berfformiadau yn Ewro 2016. Ar ôl i Jurgen Klopp gael ei benodi fel rheolwr yn Anfield llynedd chafodd Joe ddim llawer o gyfle yn y tîm cyntaf. A doedd hi ddim syndod ei weld yn gadael am Stoke dros yr Haf.
Brendan Rodgers — ar ôl cyfnod hynod o lwyddiannus fel rheolwr Abertawe yn ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth ac yn gorffen yn y 10fed safle yn eu tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr mi gafodd o gynnig swydd Lerpwl. Yn ei ail dymor wrth y llyw yn Anfield mi ddaethon nhw o fewn trwch blewyn i ennill y gynghrair diolch i goliau Luis Suarez. Mae Rodgers bellach yn rheoli Celtic.
John Toshack — mi oedd o’n arwr i gefnogwyr Lerpwl yn ystod ei gyfnod yno rhwng 1970 a 1978. Mae’r Kop yn dal i siarad am ei bartneriaeth yn y llinell flaen efo Kevin Keegan. Fe adawodd o i ymuno ag Abertawe yn 1978 fel chwaraewr – reolwr gan fynd â’r tîm o’r hen bedwaredd adran i’r adran gyntaf. Mae o'n dal yn arwr yng ngolwg cefnogwyr y ddau glwb.
Jan Molby — mi dreuliodd o 12 mlynedd fel chwaraewr efo Lerpwl (er iddo gael ei anfon ar fenthyg i Barnsley a Norwich ar ddiwedd ei gyfnod yno). Mi ymunodd o ag Abertawe fel chwaraewr-reolwr yn 1996. Fe gollon nhw yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r drydedd adran yn erbyn Northampton yn 1997. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach mi gafodd ei ddiswyddo.
Ian Callaghan — does ‘na run chwaraewr wedi chwarae mwy o gemau i Lerpwl na Callaghan. Fe enillodd o Gwpan Ewrop ddwy waith efo’r cochion yn ei gyfnod hir efo’r clwb (1959-1978) cyn iddo symud i Dde Cymru i ymuno ag Abertawe.
Emlyn Hughes — arwr arall i gefnogwyr Lerpwl. Fo oedd eu capten yn ystod cyfnod euraidd y 1970au gan ennill y gynghrair bedair gwaith, Cwpan FA Lloegr unwaith, Cwpan Ewrop ddwy waith a Cwpan UEFA ddwy waith hefyd. Abertawe oedd ei glwb proffesiynol olaf yn 1983-1984.
Tommy Smith — capten Lerpwl am gyfnod yn ystod y 1970au. Yn ei gyfnod yno fe enillodd y gynghrair, Cwpan Ewrop, Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop a Chwpan UEFA . Cyn ymddeol yn 1979 fe helpodd Abertawe i ennill dyrchafiad o’r drydedd adran i’r ail adran.
**Mae pob un o gemau Abertawe yn fyw ar BBC Radio Cymru