ERTHYGLAU CYMRAEG - MANCHESTER CITY

24th September

I'r rhai ohonoch sy'n fy nabod yn dda mi wyddoch fy mod i'n gwylio lot fawr iawn o bêl droed! Dwi'n gwylio popeth. Gemau yng Nghymru, Lloegr, Sbaen, Yr Eidal.......a hyd yn oed prif adran China y dyddiau hyn! Os oes yna bêl droed ymlaen ar y teledu yna mi fydda i'n ei wylio. Rwy'n un o'r anoraciaid mae gen i ofn.


Mae wythnosau agoriadol y tymor newydd yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi bod yn wych. Gemau cofiadwy, goliau o'r safon uchaf a digon o bynciau trafod dadleuol. Uwch Gynghrair Lloegr ydi'r gynghrair orau yn y byd ar y funud. A'r her i Abertawe eto y tymor yma ydi gwneud yn siwr eu bod nhw'n aros ynddi.
Mae rheolwyr gorau'r byd yn rheoli yn y gynghrair bellach. Pep Guardiola yn Manchester City, Jose Mourinho yn Manchester United, Antonio Conte yn Chelsea a Jurgen Klopp yn Lerpwl i enwi rhai ohonynt. Pob un am brofi'r wefr o fod wrth y llyw mewn cynghrair mor gystadleuol.
Heb anghofio am y chwaraewyr. Dwi'n gwybod bod Ronaldo, Messi a Bale yn chwarae'n La Liga yn Sbaen. Ond peidwch ag anghofio am Aguero, De Bruyne, Ibrahimovic, Pogba, Costa a Hazard.
Ac wrth gwrs - beth am hanes Caerlŷr y tymor diwethaf? Does yna erioed stori debyg wedi digwydd mewn unrhyw gynghrair arall. Tîm llawn o chwaraewyr oedd wedi cael eu rhyddhau / gwerthu gan glybiau eraill yn dod at ei gilydd ac yn cael eu coroni'n bencampwyr. Mae hi'n gynghrair cwbl unigryw.
Dwi'n gwybod bod rhai o gefnogwyr Abertawe yn poeni am y dechrau maen nhw wedi ei gael i'r tymor. 4 pwynt ar ôl 5 gêm. Ac mae'r tair gêm nesaf yn mynd i fod yn rhai anodd - Manchester City, Lerpwl ac Arsenal.
Ond does dim angen poeni'n ormodol. Roedd y perfformiad a'r canlyniad ar Y Liberty yn erbyn Chelsea bythefnos yn ôl yn hynod galonogol. Dwi'n meddwl bod y garfan yma'n mwynhau wynebu'r timau mawr gan godi eu gêm wrth chwarae yn eu herbyn.
Mi fydd angen i'r Elyrch fod ar eu gorau heddiw os am unrhyw obaith o gael buddugoliaeth neu gêm gyfartal. Roedd y gefnogaeth yma ar gyfer ymweliad Chelsea yn fyddarol. Mae angen i chi greu'r un awyrgylch unwaith eto heddiw a chefnogi'r tîm.