Amser i Gymryd Mantais

20th September

Wrth gefn y fuddugoliaeth ar ddechrau'r tymor, roedd hi'n dipyn o brofiad i'r garfan i fyny yn Stamford Bridge ddydd Sadwrn diwethaf. Heb anghofio amdani, ohonom ni'n edrych ar y chwaraewyr Chelsea twymo cyn y gêm, ac roedd hi'n anodd iawn i bawb heb gymryd sylw o'r ansawdd a'r safon ddisglair o fewn y garfan.
Dechreuwyd y gêm ar y trywydd iawn yn y hugain munud cyntaf, wrth i Ki rheoli llawer o'r chwarae yng nghanol cae, gan hefyd creu sawl cyfle i Gomis ar adeg neu ddau. Ar ôl i ni ildio eu gôl gyntaf cyn hanner amser, ohonom ni'n gallu teimlo'r tôn yn newid o amgylch y cefnogwyr yn ein cornel ni. Dangoswyd llawer o bethau positif cyn mynd yn ôl mewn i'r ystafelloedd newid, ag gellir Garry Monk wedi dweud llawer mawr amdani.
Dechreuodd yr ail hanner yn wael iawn gyda chwaraewyr fel Diego Costa yn gorfodi'r pwyslais yn erbyn ni yn gynt o'r chwiban. O'dd hi'n anodd iawn i farnu'r gôl ar y pryd achos y golwg oedd gen i, ond gan edrych dros yr uchafbwyntiau ar ôl y daith adref, roedd hi'n amlwg fod yr amddiffyn yn colli trefn. I fod yn hollow honest, gellir dweud yr un peth am bob gôl casglwyd gan Costa. Wrth i fi trafod y perfformiad yn gwmni'r bechgyn, roedd 'na sawl sylwad yn cynnwys... Pa newidiadau a ellir Monk wedi gwneud yn gynnar? Ble roedd yr amddiffynwyr ar y postyn blaen yn y gôl gyntaf? Rhaid i ni atgoffa ein hunain ar adegau bod ni'n gallu curo cewri'r gynghrair, achos ni wedi profi hyn yn y gorffennol. Ond, ar yr un pryd, mae angen i ni gofio ar bob adeg fod 'na ddim amser i roi cyfle ar blât i unrhyw wrthwynebwr ar unrhyw deg.
Mi fydd rhaid i mi hefyd atgoffa pawb o'r perfformiad yn yr eisteddle yn Stamford Bridge. Dangoswyd llawer o gefnogaeth fel arfer gan y Jack Army. Eto, yn bleser i glywed pa mor well ydym ni na'r clybiau eraill.
Gobeithio fe ellir buddugoliaeth heddiw yn erbyn Southampton ychwanegu tri phwynt arall i'r cyfanswm Garry Monk! Dwi'n siŵr fod pawb yn gyffrous i weld sut mae'r garfan yn mynd i ddatblygu dros yr wythnosau nesaf. Dere 'mhlan y Jacks!