'Anghredadwy'

16th March

Dyna gyfieithiad o'r gair " incredible " gafodd ei ddefnyddio ddwywaith gan Brendan Rodgers yn ystod cyfweliad gyda'r BBC union flwyddyn yn ôl.'Roedd Rodgers yn ymateb i berfformiad tîm Abertawe yn eu buddugoliaeth o 3-0 yn Fulham ac 'roedd ' anghredadwy ' yn ddisgrifiad digon teg o safon eu chwarae. 'Roeddwn i'n sylwebu yn Craven Cottage ac wrth i mi edrych ar y nodiadau wnes i cyn ac yn ystod y gêm honno mae hi'n anodd credu cymaint sydd wedi newid ers hynny. Yn ogystal â Rodgers mae pump o'r unarddeg ddechreuodd dros Abertawe yn Fulham wedi gadael y clwb erbyn hyn : sgoriwr dwy o'r tair gôl Gylfi Sigurdsson, y sgoriwr arall Joe Allen, Scott Sinclair, Danny Graham a Steven Caulker. 'Rydw i'n cofio'r cyffro ymhlith y gohebwyr radio a phapur newydd o Dde Cymru ar ôl y chwiban olaf wrth inni aros i holi Rodgers a rhai o'r chwaraewyr. Ar ôl ennill 'roedden' nhw wedi codi'n uwch na 10fed yn Yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf i'r 8fed safle a gofynnais i a gohebwyr eraill y cwestiwn ' pa mor realistig ydi gorffen yn ddigon uchel yn y tabl i sicrhau lle yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf? '
Flwyddyn yn ddiweddarach mae Abertawe wedi sicrhau lle yng Nghynghrair Europa wrth gwrs ar ôl prynhawn penigamp yn Wembley fis diwethaf ond fel y soniodd Michael Laudrup cyn y gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Newcastle mae o wedi gosod targed arall i'w dîm - 50 o bwyntiau.  Y prynhawn yma 'does ond gobeithio y gwnan' nhw fynd dri phwynt yn nes at y nod a buasai'n braf eu gweld nhw'n chwarae cystal yn erbyn Arsenal heddiw ag y gwnaethon' nhw yn y fuddugoliaeth wych o 2-0 yn Stadiwm Emirates ar ddechrau Rhagfyr. 'Roedd tîm Laudrup hyd yn oed yn well nag oedd tîm Rodgers yn Fulham ddeuddeng mis yn ôl : 'roedden' nhw'n ' anghredadwy '.