Ansawdd Dyfnder yn Allweddol i Lwyddiant

30th August

Unwaith eto, mae'r wythnos hon wedi bod yn wych. Wrth gefn y fuddugoliaeth enwog ym Manceinion  penwythnos diwethaf, roedd y canlyniad yn erbyn Burnley yn estyniad yn y cyfeiriad cywir. Dangosir llawer o drefn yn yr amddiffyniad gan Ashley Williams a Jordi Amat, ac fe wnaeth hon lleihau cyfleoedd Burnley i brofi Fabianski. Nia ellir gofyn fwy amdano'r garfan ar ôl casglu chwe phwynt o ddwy gêm. Er nad yw Burnley yn un o'r cewri fel Chelsea, Arsenal, a Dinas Manceinion, maen nhw siŵr o fod yn mynd i ddangos llawer o frwdfrydedd i aros yn yr uwch gynghrair y tymor yma.
Yn bleser roedd gweld y chwaraewyr newydd yn ymuno'r clwb ar ddiwedd wythnos ddiwethaf. Federico Fernandez yn enw sydd wedi bod yn hedfan o gwmpas y wasg yn yr wythnosau diwethaf, gyda thebygolrwydd y negeseuon yn bosib o droi'n realiti. Fel dywedir Huw Jenkins a Garry Monk dros y penodiad, fe ddysgu'r llawer o'i gamgymeriadau yn y Gorffennaf i arwyddo chwaraewyr. Mae hon yn profi i ni fod y clwb yn tyfu ym mhob cornel y ddinas, a hefyd yn ddeniadol i'r cefnogwyr i weld fwy o enwau mawr yn y dyfodol.
Penodiad cyffroes arall a wnaeth ymuno'r garfan wythnos diwethaf, yw'r bychan ifanc Tom Carroll o Spurs. Gobeithio gallai bresenoldeb fod yn fantais i Abertawe yn ystod y tymor prysur yma. Mae'n unigolyn sydd wedi dangos llawer o botensial i lwyddo yn yr uwch gynghrair, a ddangosir hwn yn y gorffennol wrth iddo chwarae dros ugain o gemau i Spurs. Siŵr o fod Ben Davies a Michel Vorm wedi sôn amdano'r trefniadau a gweithred y garfan yn Abertawe. Mi fydd hwn yn allweddol iddo ddod yn gyfarwydd gyda'r amgylchiadau yn mor gynt ag sy'n bosib. Yn ôl y gêm yn erbyn Rotherham ar nos Fawrth, dyna beth yn union wnaeth Carroll profi. Dywedir Garry Monk ei fod yn chwaraewr sydd yn debyg iawn i Joe Allen a Leon Britton. Felly dwi ddim yn credu bydd unrhyw un yn drist i glywed y dywediad hwnnw.
Welir rhestr o newidiadau yn y fuddugoliaeth yn erbyn Rotherham sydd yn werth cofnodi gan unrhyw wrthwynebwyr  y tymor yma. Mae'n amlwg fod y gwaith paratoi, ffitrwydd, a gweithred yr holl garfan yn werth edmygu. Rhywbeth mi fydd niferoedd o dimoedd yn poeni amdano fi'n siŵr.
Gobeithio fe ellir buddugoliaeth heddiw yn erbyn West Bromwich Albion danfon gwobr Hyfforddwr y Mis yn gyfeiriad Garry Monk! Dere 'mlan y Jacks!