Cadw Fynd

9th November

Hyd yn hyn, mae'r dechreuad i'r tymor wedi bod yn llwyddiannus i'r Elyrch. Ar ôl wythnos hynod o brysur yn erbyn Caerlŷr lawr y Liberty, a hefyd ddau ymweliad i fyny yn Lerpwl i Anfield a Pharc Goodison. Wnaeth Caerlŷr dim ond ennill un gêm cyn gwneud y daith i  De Cymru y tymor yma, wrth iddyn nhw guro Manceinion Unedig 5-2 nôl ar yr unfed ar hugain o fis Medi. Tro ar ôl tro, mae Bony wedi dangos i ni pa mor fygythiol mae'n gallu fod gyda'r perfformiad yn erbyn Caerlŷr yn profi hynny. Wnaeth y gôl gyntaf dangos sut mae'r perthynas rhwng Gylfi a Bony wedi datblygu dros yr wythnosau diwethaf. Mae'n amlwg iawn fod y ddau ohonynt yn deall i'w gilydd yn dda iawn, gyda'r cysylltiad ar draws y maes yn ymddangos i fod yn hollol naturiol.

Gan gyfeirio at y siomedigaeth yn erbyn Lerpwl yn y Cwpan Capital One, roedd hi'n noson i'w anghofio yn sicr. Wrth i'r tîm gartref achosi llawer o broblemau ar ddechrau'r gêm gyda Coutinho yn gyfrifol am nifer o symudiadau o amgylch y gôl gosb. Wnaeth yr Elyrch dangos brwdfrydedd cryf ar ôl hanner amser, wrth iddynt roi Lerpwl nôl ar y traed cefn. Yn fy marn i wnaeth Fulton a Emnes creu argraff fawr ar y noson, ar ôl berfformiad cadarn ac aeddfed ar sawl adeg. Ond, ar wahân i'r ymdrech a'r ymateb gwych trwy gydol mwyafrif yr ail hanner, wnaeth yr awyrgylch newid yn sydyn, ar ôl penderfyniad gwael mynd yn erbyn Fernandez wrth iddo weld y garden goch. Heb feddwl amdani, wnaeth hwn effeithio'r naws, gyda Lerpwl yn fuddugol ar y chwiban olaf.

Nid oedd y gêm yn erbyn Everton yn ddisglair iawn, ond ar ddiwedd y dydd, pwynt gwerthfawr wrth i'r Elyrch sefydlu'r chweched safle yn yr Uwch Gynghrair. Mae Parc Goodison wedi profi i fod yn lle anodd iawn i unrhyw ymwelwr dros y blynyddoedd, felly dwi'n teimlo bydd pob aelod o'r clwb yn eu gwerthfawrogi.  Fel clywir Garry Monk yn dweud yn ystod yr wythnosau diwethaf, sawl tro mae'r penderfyniadau wedi mynd ein herbyn. Gobeithio, gellir gweld gwelliant gyda phenderfyniadau'r dyfarnwyr o hyn ymlaen, achos mae'r amserlen hyd nes Nadolig yn mynd i fod yn brysur ac yn anodd.

Ond yn ôl canlyniadau'r gorffennol gan y ddau dîm heddiw, does dim esgus am gêm heb unrhyw cyffro. Pob lwc i'r Elyrch!