Gadewch i Ni Wneud Hynny Unwaith "Eto'o"
13th April
Rhaid edmygu ansawdd y garfan sydd gyda Chelsea. Gyda sawl unigolyn disglair y byd yn i'w ystafell newid, mae nhw wedi profi hynny yn erbyn pob un o'r gwrthwynebwyr y tymor yma. Gadewch i ni newid y patrwm heddiw.
Gyda Chelsea yn eistedd dau bwynt tu ôl i arweinwyr y gynghrair, allai'r sefyllfa hon newid yn gyfan gwbl wrth i Lerpwl wynebu Dinas Manceinion amser cinio heddiw. Heb law am ganlyniad hynny, mi fydd Mourinho a'i garfan ddim yn edrych i gwympo yn ôl yn y pellter, gan gadw'n mor nes ag sy'n bosib. Dwi'n sicr fydd ystyr y bencampwriaeth hon i'r ddwy garfan, yn adlewyrchu oddi ar y cae heddiw. Gobeithio gallwn ni ddefnyddio'r dewrder o'r llynedd yn erbyn Chelsea, er mwyn neidio yn ôl o siom yr wythnos ddiwethaf. Unwaith eto, stori ni'r tymor yma, berfformio'n wych oddi gartref, ond yn cael trafferth i sgori. Ni'n ymwybodol bod hwn ddim yn ddigon da, a dwi'n gwybod bydd Garry Monk yn atgoffa'r bechgyn yn yr ystafelloedd newid, pwysigrwydd statws y clwb i bobl y ddinas hefyd. Wrth i'r wasg pwysleisio ar ei'n sefyllfa ni yn ddiweddar, mi fydd fuddugoliaeth heddiw yn gobeithio'n cylchdroi'r awgrymiadau negyddol sy'n hedfan o gwmpas.
Ni wedi profi fod ni'n gallu curo'r cewri ar unrhyw adeg yn y gorffennol, a duw hynny ddim yn effeithio ar y posibilrwydd heddiw. Heb anghofio, nad ydy Chelsea wedi ennill yn y Liberty chwaith!
Tybed os mae 'na sedd sbâr i José yn yr eisteddle heddiw? Ni'n gwybod fod e'n hoff iawn o'r cerdyn coch yn y gorffennol. Sedd ar bwys y drwm i José bois?
Pob lwc i Garry Monk a'r bechgyn! Dewch ymlaen Abertawe!