Mae maddeuant yn brin ym mhêl-droed

16th September

Os oes chwaraewr yn gadael tîm, anaml y bydd e'n dychwelyd i'r clwb hynny ac yn clywed cymeradwyaeth. Gwawdio a chwibanu sy'n fwy tebygol.
Mae'r un peth yn wir am y rhan fwyaf helaeth o hyfforddwyr, fel y mae Brendan Rodgers yn gwybod.
Daw Rodgers i'r Liberty heno fel rheolwr Lerpwl, ond fel y dyn ag arweiniodd Abertawe i'r Uwch Gynghrair y geiff ef ei gofio yn Ne Cymru.
Roedd ennill dyrchafiad yn gamp aruthrol, a roedd gorffen y tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair yn 11eg yn y tabl yn gyflawniad sylweddol.
Ond pan adawodd Rodgers er mwyn ymuno â Lerpwl blwyddyn dwetha, bu newid trawiadol ym marn cefnogwyr Abertawe o'r gŵr o Ogledd Iwerddon.
Y tro cynta i'r Elyrch chwarae Lerpwl ers i Rodgers symud oedd y gêm Cwpan Capital One mis Hydref dwetha.
O'r chwiban cynta bu cefnogwyr Abertawe yn hwtio Rodgers a, phan aeth dîm Michael Laudrup ar y blaen, roedd yr un cefnogwyr yn chwim i atgofio'u cyn rheolwr o'r sgor.
Roedd y rhan fwyaf o siantio'n tynnu coes chwareus wrth i Abertawe ennill y gêm hynny 3-1, ond roedd y drwg deimlad yn amlwg.
Dyna oedd y teimlad pan ddaeth Lerpwl i'r Liberty y mis nesa am gêm gyfartal yn yr Uwch Gynghrair, a phan aeth Abertawe i Anfield ym mis Chwefror. Rodgers oedd yn gwennu ar ddiwedd y gêm hynny, ar ôl i Lerpwl guro Abertawe 5-0.
Dyw Rodgers ei hun ddim yn teimlo'n chwerw tuag at yr Elyrch, ond mae'n amlwg bod ei benderfyniad i ymuno â Lerpwl yn dal i fod yn bwnc sensitif i rai yn y Liberty.
I ryw raddau, mae hynny'n ran o'r pantomeim o gefnogi tim pêl-droed, ond weithiau byse ychydig o werthfawrogiad yn dda i glywed.
Yn y Hawthorns pythefnos yn ôl, roedd Abertawe yn chwarae yn erbyn un o arwyr arall eu dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Scott Sinclair, sydd ar fenthyg o Manchester City i West Brom ar hyn o bryd, sgoriodd y hatrig yn Wembley dwy flynedd yn ôl a roddodd buddugoliaeth 4-2 i'r Elyrch yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn erbyn Reading.
Roeddi'n achlysur bythgofiadwy, ac yn uchelbwynt i dymor gwych i Sinclair a ddaeth â 27 gôl i'r asgellwr.
Ond pan gafodd enw Sinclair ei gyhoeddi yn y Hawthorns, ymateb cefnogwyr Abertawe oedd i fwio ac i gyfeirio siantiau anweddus tuag ato.
Nid tynnu coes yn unig oedd hyn, ond ffordd wenwynog o atgoffa Sinclair bod nifer o gefnogwyr heb faddau iddo am fynd o Abertawe i Manchester City.
Mae'n annodd beio chwaraewr ifanc am ymuno â chlwb a oedd wedi newydd ennill yr Uwch Gynghrair pan roesent £6.2 miliwn i Abertawe ar gyfer ei drosglwyddiad.
Mae hefyd braidd yn anheg i feio hyfforddwr ifanc, uchelgeisiol fel Rodgers am symud i glwb pŵerus a llwyddiannus dros ben fel Lerpwl.
Chwaraeodd Rodgers rôl hanfodol yn llwyddiant diweddar Abertawe cyn iddo adael. Efallai mae'n bryd i faddau.