Ni Yma i Aros
26th April
Wrth i Bony sefyll cyn y bêl yn ystod y munudau olaf prynhawn ddydd Sadwrn, dwi erioed wedi teimlo mor nerfus ers Wembley nôl yn 2011. Mae'n amhosib disgrifio'r pwysau sydd wedi codi wrth i ni weld y bêl yn gorffen yng nghefn y rhwyd. Fel mae Bony wedi profi yn ystod yr holl dymor, mae'n chwaraewr sy'n llwglyd i lwyddo ac yn gweithio'n dda o dan bwysau ar unrhyw adeg. Gyda'r tensiwn a rhwystredigaeth yn cynyddu dros yr wythnosau diwethaf, mae'r canlyniad yn erbyn y Magpies wedi bod yn allweddol iawn. Unwaith eto, roedd yr ymdrech gan y garfan yn wych gyda sawl unigolyn yn dangos llawer o galon a brwdfrydedd. Ar sawl adeg blwyddyn hyn, ni wedi canmol yr ymdrech ar y maes, ond nad yw'r pwyntiau wedi dod yn ddigon cyson. I ddod nôl o'r gogledd gyda tri phwynt, mae pawb o'r chwaraewyr i'r Jack Army yn haeddu canmoliaeth.
Efallai nid yw'r tymor hyn wedi profi i fod yn ddisglair ers i ni ymuno'r gynghrair, ond mae'n rhaid i ni atgoffa ein hunan, o beth ni wedi cyflawni hyd yn hyn yn yr uwch gynghrair. Mae'r profiad yn Ewrop a'r anafiadau wedi effeithio ni yn ddifrifol iawn, heb law am esgusodiadau dwi'n sicr mi fyddwn ni'n llawer cryfach erbyn tymor nesaf.
Oes allwn ni gael tri phwynt heddiw, fydd hynny yn siŵr o fod yn llawer o ryddhad i bawb yn Dinas Abertawe. Mae Villa wedi colli llawer o'i gemau yn ddiweddar, felly gan ychwanegu'r hyder o'r penwythnos diwethaf, mae'n gyfle arbennig i ni sicrhau a chynnal ein statws yn y gynghrair am flwyddyn nesaf.
Pob lwc i Garry Monk a'r bechgyn! Dewch ymlaen Abertawe!