Ni'n barod amdani...

23rd August

Mae'n braf i gystadlu mewn gêm gyntaf swyddogol y gynghrair, ar gyfer y tymor yma yn y Liberty. Heb feddwl am estyniad y tymor diwethaf gyda Chwpan y Byd yn Rio, mae'n hynod o gyffroes i weld y garfan nôl yn y crysau gwyn. Ar ôl brofiad gwych yn yr Amerig trwy gydol yr ymarferion cyn-dymor, mae'r trefniadau gan Garry Monk a gweddill y staff wedi creu argraff gadarn. Fel digwyddir pob blwyddyn, fe welwyd chwaraewyr newydd yn ymuno ac fe welir nifer yn gadael, ond mae'r llechen yn lân unwaith eto er mwyn ychwanegu at hanes y daith ddiddorol yma.
Mae'r tymor yma yn mynd i fod yn dipyn o brofiad i Garry Monk. Gan ystyried i'w brofiad defnyddiol fel chwaraewr a'i dealltwriaeth oddi ar y maes chwarae, mae pob cymhwyster allweddol yn bresennol. Yn sicr, mae'n gwybod yn union beth mae'n siarad amdano, ac mae'n gwybod beth sydd angen er mwyn ddatblygu'r garfan ym mhellach. Yn fy marn i, dwi'n credu mi fydd Montero yn creu argraff wych y tymor yma, ar ôl ddangos ei allu a chyflymder yn y gemau ymarferol yn ddiweddar. Heb anghofio mae 'na sawl chwaraewr ifanc arall wedi ymuno'r haf yma, a fyddai'n ddiddorol i weld sut fyddent nhw yn cydweithredu gyda'r sêr eraill fel Ki, Bony, Gomis... a'r bychan "Sigi"!
Meddwl amdani, pwy welodd y gêm yn Old Trafford wythnos diwethaf? Cyn i mi ddechrau siarad o'r nefoedd, roedd y datblygiad hyd at y gêm wedi bod yn drwm wrth ddiolch i'r wasg. Ond beth arall ydym ni'n debygol o weld gan y wlad yma? Gan ystyried y wahanol ffactorau a wnaeth yr achlysur yn ddisglair i Fanceinion Unedig cyn y dydd, fe anghofiwyd llawer amdanom ni fel y gwrthwynebwyr. Na allwn ni wedi chwarae nhw ar unrhyw adeg well, a dwi'n siŵr fyddai pawb yn cytuno mae hi bob amser yn sbri i ddinistrio parti, yn enwedig un van Gaal. Rhaid edmygu'r ymdrech gan y bechgyn, achos wnaeth pawb ychwanegu rhywbeth ar y bwrdd mewn sawl gwahanol fyrdd. I ddod nôl o Fanceinion gyda thri phwynt, allwn i ddychmygu byddai'r Jack Army yn gallu credu bydda nhw'n ddigon hyderus i hedfan nôl i Dde Gymru ar brynhawn ddydd Sadwrn.
Mae'n bwysig fod ni'n defnyddio'r profiad wythnos ddiwethaf i ysbrydoli'r dasg sydd o flaen ni heddiw. A gofiwch, i barhau gyda'r gefnogaeth swnllyd o bob cornel y stadiwm... "Ar hyd y nos!"