Pwysigrwydd persbectif

20th April
Bum wythnos yn ôl oedd y tro diwethaf i mi ysgrifennu erthygl ar gyfer y dudalen hon yn y rhaglen ac wrth gyfeirio at Abertawe yn yr erthygl honno dywedais i y 'buasai'n braf eu gweld nhw'n perfformio'n cystal yn erbyn Arsenal heddiw ag y gwnaethon nhw yn y fuddugoliaeth wych o 2-0 yn Stadiwm Emirates ar ddechrau Rhagfyr'.
Wnaethon nhw ddim wrth gwrs cyn colli 2-0 ac yn naturiol roedd awyrgylch fflat ychydig ar ôl y chwiban olaf yn Stadiwm Liberty. Holais i Ashley Williams ar ôl y gêm ac roedd o'n hynod o siomedig nad oedd o a gweddill y tîm wedi perfformio'n well.
Dyna'r math o ymateb roeddwn i wedi'i ddisgwyl gan Williams ac yntau wedi chwarae mor gampus mor aml ers iddo ymuno â'r Elyrch. Yn 2008 y gwnaeth o hynny ac mae hi'n rhyfedd meddwl fod union bum mlynedd ers iddo fo a'i gyd-chwaraewyr ennill Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf yn y stadiwm hwn. Ar brynhawn Sadwrn 19eg Ebrill 2008 cawson nhw eu coroni'n bencampwyr er gwaethaf y ffaith eu bod nhw wedi colli 2-1 yn erbyn Yeovil. Cafodd Caerliwelydd (Carlisle) eu curo gartref o'r un sgôr gan Southend felly roedd tîm Roberto Martinez yn dathlu am yr ail Sadwrn yn olynol. Wythnos cyn hynny roedden nhw wedi ennill 2-1 yn Gillingham i sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth.
Ar wahân i Williams Leon Britton ydi'r unig un arall oedd yn yr unarddeg yn erbyn Yeovil a Gillingham sy'n dal yn nhîm cyntaf Abertawe yn rheolaidd. Mae safon chwarae'r ddau wedi codi wrth i'r Elyrch godi o un adran i'r nesaf. Ar sail nifer o berfformiadau gwych y tymor diwethaf a'r tymor hwn mae disgwyliadau wedi codi hefyd ond wrth ystyried fod tîm Michael Laudrup wedi colli eu dwy gêm gartref ddiwethaf fis diwethaf mae'n bwysig rhoi'r ddau ganlyniad mewn persbectif cyn iddyn nhw wynebu Southampton y prynhawn yma. Rhaid cofio fod Arsenal a Tottenham ymhlith y timau gorau yn Yr Uwch Gynghrair......a chofio hefyd fod Abertawe ddwy adran yn is bum mlynedd yn ôl.